Mae'r 33 o wyliau, mawr a bach, yn rhoi sylw i ystod eang o gynnyrch a chynhyrchwyr - yn cynnwys llawer o enillwyr gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas.
Dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd:
"Mae gan wyliau bwyd ran bwysig wrth ddenu ymwelwyr a rhoi man arddangos i gynhyrchwyr.
"Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i barhau i gefnogi diwydiant bwyd Cymru a chryfhau ei diwylliant. Mae bwyd a diod o Gymru yn parhau yn un o'n hatyniadau twristiaeth mwyaf poblogaidd, ac mae ganddo ran allweddol yn economi Cymru.
"Rwy'n hynod falch ein bod yn medru helpu nifer o'r digwyddiadau hyn unwaith eto."
Yn ystod 2012 bydd y gwyliau rhyngddynt yn derbyn £339,280 mewn cymorth, gan nodi enw da Cymru fel cynhyrchydd bwydydd a diodydd safon uchel ac amrywiol.











