Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llywodraeth Cymru yn helpu gwyliau bwyd a diod i ffynnu

Caiff gwyliau bwyd a diod ym mhob rhan o Gymru gynnig cyfran o gronfa cymorth gwerth £339,280 gan Lywodraeth Cymru.
Dydd Llun 16 Ebrill 2012

Mae'r 33 o wyliau, mawr a bach, yn rhoi sylw i ystod eang o gynnyrch a chynhyrchwyr - yn cynnwys llawer o enillwyr gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas.

Dywedodd Alun Davies, Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd:

"Mae gan wyliau bwyd ran bwysig wrth ddenu ymwelwyr a rhoi man arddangos i gynhyrchwyr.

"Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i barhau i gefnogi diwydiant bwyd Cymru a chryfhau ei diwylliant. Mae bwyd a diod o Gymru yn parhau yn un o'n hatyniadau twristiaeth mwyaf poblogaidd, ac mae ganddo ran allweddol yn economi Cymru.

"Rwy'n hynod falch ein bod yn medru helpu nifer o'r digwyddiadau hyn unwaith eto."

Yn ystod 2012 bydd y gwyliau rhyngddynt yn derbyn £339,280 mewn cymorth, gan nodi enw da Cymru fel cynhyrchydd bwydydd a diodydd safon uchel ac amrywiol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cefnogaeth ar gyfer gwyliau bwyd

Tagiau

Busnes a'r economi 16 Ebrill 2012 Yr economi Ffermio a chefn gwlad Bwyd a physgodfeydd Programme for Government - Growth Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Medi 2014
Ll M M I G S S
<< Aws    
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30          
I'n dilyn ni trowch i