O ganlyniad i’r ddeddfwriaeth newydd, o fis Hydref diwethaf, cwmnïau dŵr a charthffosiaeth sy’n gyfrifol am garthffosydd preifat yng Nghymru a Lloegr. Cyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon, perchnogion tai oedd yn gyfrifol amdanynt.
Yn dilyn hyn, mae cwmni MD Infrastructure Support Services, sy’n arbenigo mewn archwilio, cynnal a thrwsio peipiau tanddaearol, wedi ennill nifer o gontractau cynnal gan y cwmnïau gwasanaethau cyhoeddus. O ganlyniad, mae’r cwmni wedi gweld cynnydd o 75% yn ei lwyth gwaith.
Mae’n un o ychydig gwmnïau sy’n defnyddio offer tirfesur ac archwilio robotig sy’n cael ei reoli o bell i archwilio, glanhau a thrwsio peipiau tanddaearol heb fod angen palu’r heolydd a’r palmentydd.
Mae’r cwmni felly’n ehangu ac yn buddsoddi £372,000 ei hun i brynu offer robotig rheoli o bell o’r radd flaenaf i sicrhau ei fod yn ennill a chadw contractau gwerth miliynau.
Mae’r cwmni hefyd yn derbyn cymorth ariannol o £153,000 gan Gronfa Twf Economaidd Llywodraeth Cymru i brynu’r offer newydd a bydd hefyd yn galluogi’r cwmni i greu chwe swydd newydd. Mae’r cwmni’n cyflogi deg ar hugain o bobl ar hyn o bryd.
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart mai amcan y gronfa yw darparu cyllid yn gyflym er mwyn galluogi busnesau yng Nghymru i ehangu a gwneud y gorau o gyfleoedd newydd yn y farchnad.
“Newyddion da iawn yw clywed sut mae’r Gronfa’n cefnogi busnesau i dyfu ac yn galluogi cwmnïau fel MD Infrastructure Support Services i fuddsoddi yn ei gyfleusterau ac ennill contractau newydd gan greu swyddi newydd yn yr ardal.”
Dywedodd y Cyfarwyddwr Julian Powell fod y cwmni eisoes wedi gorfod rhentu neu logi offer a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu lleihau costau a gwneud y busnes yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir.
“Rydyn ni’n blês dros ben ein bod ni’n derbyn cymorth gan y gronfa i brynu offer newydd. Mae’r buddsoddiad hwn yn hanfodol i’r cwmni allu tyfu yn y dyfodol a bydd yn ein helpu i ddenu nifer o gontractau hirdymor gwerth miliynau a dal gafael arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys contract pum mlynedd gyda rheilffordd danddaearol Llundain gwerth £1 miliwn y flwyddyn.
“Daeth y ddeddfwriaeth newydd â nifer o gyfleoedd newydd i ni gan fod gwaith cynnal yn awr yn cael ei roi i gwmnïau allanol. Mae’r ffaith ein bod ni’n defnyddio technoleg rheoli o bell yn golygu nad oes angen palu heolydd ac ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth cyflym, effeithlon a chosteffeithiol.
“Er i ni ond sefydlu’r busnes yn 2009 rydyn ni wedi sicrhau contractau gyda chwmnïau o’r radd flaenaf gan gynnwys Dŵr Cymru a Tube Lines Ltd a byddwn mewn lle blaenllaw i wneud y gorau o unrhyw gontractau newydd."











