Mae’r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi cyhoeddi rhaglen newydd o 10 taith fasnach dramor a fydd yn hyrwyddo busnesau Cymru ar draws y byd.
Bydd Llywodraeth Cymru’n arwain busnesau Cymru i farchnadoedd strategol allweddol mewn gwledydd eraill gyda’r nod o godi proffil Cymru dramor a chynyddu’r cyfleoedd masnach ac allforio rhyngwladol. Yn 2012-13, cynhelir teithiau masnach aml-sector i Japan, Gogledd America, Gwledydd y Gwlff, Tsieina, Twrci a’r Almaen.
Dyma’r rhaglen teithiau masnach gwreiddiol ar gyfer 2012-13:
- UDA - Washington, Boston/Chicago - Medi 2012
- Y Gwiff - Qatar a'r Emiraethau Arabaidd Unedig - Medi 2012
- Canada - Toronto a Montreal - Hydref 2012
- Tsieina - Beijing a Shanghai - Hydref 2012
- UDA - San Francisco a Los Angeles - Hydref 2012
- Saudi Arabia - Jeddah a Riyadh - Tachwedd 2012
- Japan - Tokyo - Tachwedd 2012
- Tsieina - Hong Kong a Chongqing - Chwefror/Mawrth 2013
- Twrci - Chwefror 2013
- Y'r Almaen - Mawrth 2013
Roedd Mrs Hart yn annerch cynulleidfa o bobl busnes o Gymru yn y digwyddiad ‘Allforio ar gyfer Twf’ yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Roedd Gweinidog Masnach a Diwydiant Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Green, hefyd yn bresennol.
Roedd Mrs Hart yn annog busnesau Cymru i fachu ar y cyfle i ehangu eu marchnadoedd ac fe ymrwymodd i ddarparu cymorth i helpu busnesau Cymru i ddatblygu eu gallu i fasnachu dramor.
Yn ôl ystadegau allforio diweddar, roedd allforion Cymru wedi cynyddu 13.8% yn 2011 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Bu cynnydd o £1,629 miliwn yng ngwerth yr allforion o gymharu â 2010, ac roedd yr allforion wedi cynyddu 13.9% i wledydd yr UE ac 13.7% i’r gwledydd tu allan i’r UE.
Dywedodd Mrs Hart:
"Rydym yn ehangu ein hymdrechion masnach a buddsoddi yn yr amgylchiadau economaidd anodd hyn ac rydym wedi sefydlu tîm prosiectau mawr i arwain ar fasnach a buddsoddi. Mae llawer o fusnesau ar draws Cymru eisoes yn bachu ar y cyfle i ehangu eu marchnadoedd presennol a byddwn yn helpu’r cwmnïau hyn ym mhob ffordd y gallwn. Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio’n agos â Masnach a Buddsoddi y DU er mwyn gallu allforio mwy o Gymru.
"Mae teithiau masnach yn blatfform rhagorol ar gyfer codi proffil Cymru ar draws amryw o sectorau – o fwyd i dwristiaeth – ac yn foddi i gynyddu masnach a buddsoddi rhwng Cymru a gwledydd eraill. Trwy annog a helpu cwmnïau i allforio gallwn greu twf economaidd cynaliadwy ac mae gan fusnesau Cymru gyfraniawd mawr i’w wneud."
Ychwanegodd Mrs Hart:
"Bydd cwmnïau Cymru’n cael cyfle yn awr i dargedu marchnadoedd strategol allweddol mewn cyrchfannau megis Tsieina, India, Japan, Canada a’r Unol Daleithiau. Dyma gyfle i gyrraedd marchnad gwirioneddol fyd-eang, a bydd y teithiau masnach, ynghyd â’n Rhaglen ni o Arddangosfeydd Tramor wedi’u targedu, yn gyfle i fusnesau Cymru ddangos cryfder eu hymrwymiad i dyfu, arloesi a chynhyrchu.
"Rydym eisoes yn adnabyddus ar draws y byd fel gwlad fach, gall sy’n fwy na pharod i weithio’n galed. Dyma ein cyfle nawr i ddangos yr ymrwymiad a phenderfyniad yr ydym oll mor falch ohono, a dangos i’r Byd bod busnesau Cymru’n gallu ffynnu yn y farchnad fyd-eang."











