Mae Chromogenex Technologies Cyf (CGX) yn dweud fod yr elw y mae’n rhagweld y bydd yn ei wneud yn dilyn gwerthu nifer sylweddol o iLipo, sef ei gynnyrch colli pwysau, yn UDA. Mae’r ddyfais colli pwysau hon yn ddiogel am nad oes angen unrhyw fath o lawdriniaeth. Dim ond fis Gorffennaf diwethaf y cafodd ei chyflwyno i’r farchnad yng Ngogledd America ac yn barod, mae’n cyfrif am dros 60% o gyfanswm gwerthiant y cwmni.
Mae CGX wedi cael £290,000 o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru trwy’r Gronfa Fuddsoddi Sengl a chyllid ad-daladwy. Mae’r cymorth hwn eisoes wedi galluogi’r cwmni i greu 19 o swyddi newydd ac i fuddsoddi mewn offer er mwyn lleihau costau gweithgynhyrchu.
Roedd ymweliad Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, â’r cwmni heddiw yn cyd-fynd â lansio’r ddogfen ymgynghori i ddatblygu Strategaeth Arloesi newydd i Gymru.
Disgrifiodd Mrs Hart y cwmni fel enghraifft berffaith o gwmni sy’n buddsoddi mewn cynhyrchion a thechnolegau arloesol er mwyn creu twf cynaliadwy hirdymor.
Dywedodd Mrs Hart:
"Rwy’n falch iawn bod CGX yn parhau i fuddsoddi yn eu safle'n Llanelli ac yn cyrraedd marchnad ryngwladol o Gymru. Mae’n arwain y farchnad mewn maes technegol iawn ac mae’n enghraifft gadarnhaol iawn o sut mae cwmnïau’n gallu rhoi gweithdrefnau arloesol ar waith er mwyn cynnal a datblygu eu busnes - er gwaethaf hinsawdd economaidd anodd iawn."
Dywedodd Dave Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid CGX, bod arloesi’n hanfodol i lwyddiant y cwmni. Y llynedd, aeth y cwmni ati i lansio dyfais sy’n rhoi ‘facelift’ heb lawdriniaeth ac yn ddiweddarach eleni, maent yn bwriadu cyflwyno dyfais newydd sy’n cael gwared ar flew.
"Bob blwyddyn, rydym yn buddsoddi swm sylweddol o arian mewn ymchwil a datblygu er mwyn gallu cyflwyno cynhyrchion newydd ac arloesol i’r farchnad. Bellach, rydym yn gwerthu’n cynhyrchion yn uniongyrchol i brynwyr yn UDA a De Affrica ac rydym yn gobeithio ail-adrodd y llwyddiant hwn yn Awstralia, Seland Newydd a Siapan.
"Mae galw mawr am ein cynhyrchion a chyda’r cymorth yr ydym wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi gallu recriwtio mwy o staff a sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gystadleuol."
Yn dilyn y dirwasgiad, aeth y cwmni ati i ailstrwythuro a newid ei strategaeth ac yn ei dro, gweddnewidiwyd perfformiad y cwmni, sy’n cyflogi 45 o bobl yng Nghymru. Mae cyfleuster gweithgynhyrchu CGX yn Nafen ac yn ddiweddar, symudwyd adran marchnata a gwerthiant y cwmni i The Beacon ym Mhorth Llanelli.











