Mae Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, yn lansio’r cam ymgynghori cyntaf yn ystod ymweliad â Chromogenex Technologies, cwmni hynod arloesol sy’n tyfu’n gyflym yn Llanelli, ac mae’n annog sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb i gyfrannu at ddatblygu’r strategaeth.
Mae'r galw am dystiolaeth yn cyd-fynd ag ymweliad gan y Gweinidog â Chromogenex Technologies, busnes hynod arloesol sy'n tyfu'n gyflym yn Llanelli. Mae'r cwmni'n rhagweld y bydd ei drosiant yn cynyddu o £5m i £12.5m eleni o ganlyniad uniongyrchol i fuddsoddi mewn cynnyrch arloesol.
Bydd Strategaeth Arloesi Cymru yn adeiladu ar strategaeth Gwyddoniaeth ar gyfer Cymru a lansiwyd yn gynharach eleni, oedd yn nodi’r angen am strategaeth ategol i ddelio â manteisio’n fasnachol ar ymchwil a datblygu a hyrwyddo arloesi.
Dywedodd Mrs Hart:
"Caiff arloesi’i adnabod fel un o’r prif ffactorau sy’n llywio twf economaidd a chreu swyddi, ac mae’n bwysig i bob rhan o’r economi. Mae hefyd yn ganolog i fynd i’r afael â materion y mae cymdeithas yn eu hwynebu fel y newid yn yr hinsawdd ac iechyd a lles.
"Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cefnogi arloesi yn ei ystyr ehangaf. Nid dim ond ymchwil a datblygu yw hyn, mae hefyd yn fater o fasnacheiddio syniadau clyfar a gwneud pethau’n wahanol i greu cyfoeth a swyddi.
"Rydyn ni’n galw am dystiolaeth ac am i bob rhanddeiliad gymryd rhan i adnabod y pynciau llosg ac awgrymu ffyrdd o wella arloesi yng Nghymru. Dyma gam cyntaf y broses ymgynghori gan ein bod am glywed cynifer o safbwyntiau ar y pwnc, ac mae’n gyfle i ddylanwadu ar ddatblygiad y strategaeth ar gyfer Cymru."











