Mae’r cwmni wedi cymryd prydles ar sied awyrennau ‘Twin Peaks’ yn Sain Tathan – sied sy’n mesur 132,000 troedfedd sgwâr ac yn eiddo i Lywodraeth Cymru. Y bwriad yw sefydlu busnes cynnal a chadw, trwsio ac ailwampio awyrennau yno.
Yn ogystal â chynnal a chadw awyrennau mawr sy’n cludo teithwyr i nifer o’r prif gwmnïau hedfan a rhai annibynnol, bydd gan Cardiff Aviation y cyfleusterau i gynnal yr holl weithgarwch cynnal a chadw a hyforddiant ategol hefyd. Mae ganddynt yr arbenigedd a’r caniatâd sydd ei angen i ardystio awyrennau o sawl gwlad wahanol, gan gynnwys UDA.
Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Mrs Hart ei fod yn arwydd o hyder byd busnes yng nghynlluniau llywodraeth Cymru i ddatblygu canolfan rhagoriaeth yn Sain Tathan.
“Rwy’n arbennig o falch i glywed bod y cwmni yn awyddus i gyflogi peirianwyr medrus a fu’n gweithio gynt i’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Bydd Cardiff Aviation yn creu cannoedd o swyddi peirianneg â lefel uchel o sgiliau ac mae cynlluniau ar droed i sefydlu rhaglen brentisiaethau barhaus hefyd wrth i’r busnes dyfu.
”Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Bruce Dickinson a Cardiff Aviation ar y prosiect cyffrous hwn ers peth amser, felly rydym yn falch dros ben bod y gwaith hwnnw wedi dwyn ffrwyth. Dyma’r union fuddsoddiad sydd ei angen arnom – mae’n dod ag arian i mewn i’r economi leol ac ar yr un pryd bydd yn hyrwyddo Parc Busnes Awyrofod Sain Tathan a’r Ardal Fusnes Awyrennau yn rhyngwladol.
“Mae gennym sector awyrofod dynamig yng Nghymru a bydd y buddsoddiad hwn yn ychwanegu at y gweithlu medrus sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal hon, yn darparu amryw o gyfleoedd i ddilyn gyrfa lwyddiannus. Bydd y math hwn o gwmni blaenllaw yn rhoi dechrau gwych i’r Ardal Fenter Awyrennau newydd."
Dywedodd Bruce Dickinson:
“Rydym wedi cael cefnogaeth ragorol gan Lywodraeth Cymru – cawsom ein plesio’n fawr gan eu hymroddiad nhw; roedd ganddyn nhw awydd gwirioneddol i weld y prosiect hwn yn lwyddo ac roedd eu brwdfrydedd a’u hegni nhw yn ddi-guro.
“Rydyn ni’n dechrau ar y fenter hon gan wybod y byddwn yn dod â busnes newydd i Dde Cymru – rydyn ni’n amcangyfrif y bydd modd creu hyd 1,000 o swyddi o fewn 18 mis ar sail y lefel o ddiddordeb ac ymrwymiad gan gynhyrchwyr a gweithredwyr awyrennau. Mae haner hir i’r diwydiant awyrennau yn Ne Cymru ac rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu cyfrannu at y traddodiad hwnnw.”











