Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Creu 30 o swyddi wrth i gwmni o Lannau Dyfrdwy fuddsoddi £1 miliwn

Mae busnes warws, cludo nwyddau a dosbarthu yng ngogledd Cymru yn ehangu ac yn buddsoddi £1 miliwn mewn safle a fydd yn creu hyd at 30 o swyddi newydd.
Dydd Llun 21 Mai 2012

Mae’r ehangu, gan FTS Hatswell Ltd, sy’n gweithredu o bedwar safle ar Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, yn cael ei gefnogi gan £150,000 o Gronfa Twf Economaidd Llywodraeth Cymru.

Mae’r cwmni wedi cael gafael ar warws newydd 67,500 troedfedd sgwâr o faint gyda’r gallu i storio 12,000 o baledau – bron ddwywaith y nifer ar ei safle presennol, gan alluogi’r cwmni i gymryd busnes newydd a chynyddu ei drosiant.  

Mae’r symud yn digwydd ar hyn o bryd a bydd y safle newydd yn gwbl weithredol erbyn Mehefin.

Dywedodd y cyfarwyddwr Colin Broster fod cefnogaeth y Gronfa Twf Economaidd wedi bod yn allweddol.

“Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ni fyddem wedi bwrw ymlaen â’r prosiect heb y gefnogaeth yma. Roeddem wedi bod yn chwarae gyda’r syniad o ehangu ers peth amser ond heb hyder oherwydd y cyflwr economaidd anodd a’r ffaith nad yw’r banciau’n benthyg.

“Daeth cefnogaeth y Gronfa Twf Economaidd ar yr adeg iawn – roedd gennym y cynlluniau ac roeddem yn barod i symud yn syth cyn y terfyn amser. Cyn hyn nid oeddem yn gallu cynnig am ragor o gytundebau achos diffyg llefydd storio gwag – nid oeddem yn gallu cynyddu’r busnes.”

Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart fod FTS Hatswell yn un o nifer o gwmnïau ledled Cymru sy’n elwa o’r Gronfa.  

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu darparu'r gefnogaeth ariannol i fusnesau sydd eisiau tyfu a chreu swyddi sy’n hanfodol wrth ysgogi’r economi.

“Mae’r Gronfa yn helpu i ddarparu ein hymrwymiad Rhaglen Lywodraethu i gefnogi cwmnïau perfformiad uchel yn yr holl feysydd o’r economi all greu cyflogaeth, cyfoeth a Chymru gynaliadwy.

“Mae FTS Hatswell ond yn un esiampl o fusnes o Gymru sydd nawr yn gallu ehangu, ennill busnesau newydd a chreu gwaith.”

Mae’r cwmni, sy’n cyflogi wyth deg o bobl, yn cynnal fflyd o 55 o gerbydau gan storio a chludo bwyd a deunyddiau eraill ledled y DU ac Ewrop, gan wasanaethu busnesau bach lleol ynghyd â chwmnïau rhyngwladol.

Bydd yr ehangu yn cynyddu effeithlonrwydd yn ogystal â lleihau costau ynghyd â’u hôl troed carbon, gan leihau milltiroedd teithio’r fflyd gan dros 1000 milltir yr wythnos.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Ardaloedd Menter Cymru Cronfa Twf Economaidd Cymru 2

Gwefannau

Ardaloedd Menter Cymru

Tagiau

Busnes a'r economi 21 Mai 2012 Yr economi Programme for Government - Growth Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ebrill 2012
Ll M M I G S S
<< Maw   Mai >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
I'n dilyn ni trowch i