Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Dirprwy Weinidog yn agor canolfan ymwelwyr yn Ne Sir Benfro diolch i arian Ewropeaidd

Heddiw, roedd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, yn Ystagbwll yn Ne Sir Benfro yn dadorchuddio cyfleusterau ymwelwyr newydd a adeiladwyd diolch i arian Ewropeaidd.
Dydd Sul 20 Mai 2012
Y Dirprwy Weinidog yn agor canolfan ymwelwyr yn Ne Sir Benfro diolch i arian Ewropeaidd
Y Dirprwy Weinidog yn agor canolfan ymwelwyr yn Ne Sir Benfro diolch i arian Ewropeaidd

Roedd Mr Davies yn dathlu yn Ystad Ystagbwll yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle mae’r prosiect twristiaeth a chadwraeth ‘Ailddarganfod Ystagbwll’ wedi bod yn mynd rhagddo.

Mae’r prosiect yn werth £3 miliwn, £1.8 miliwn ohono gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru gan greu 12 o swyddi.  Gyda’r arian, bu’n bosibl ailwampio’r ganolfan ymwelwyr a’r cyfleusterau llety ac ariannu rhaglen o weithgareddau addysgol a chadwraeth.

Dywedodd Mr Davies bod llawer o waith wedi cael ei wneud i droi’r safle’n atyniad cyffrous i dwristiaid a bydd y gweddnewidiad yn helpu i greu buddiannau economaidd i Sir Benfro a’r ardaloedd cyfagos.

Dywedodd: 

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu buddsoddi arian Ewropeaidd yn y prosiect hwn ac rwy’n cydnabod gwaith caled y rhai sydd wedi bod wrthi’n sicrhau bod y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth.  Bydd y prosiect hwn yn denu ymwelwyr ac yn rhoi hwb i dwristiaeth yn y rhan unigryw hon o Gymru.

“Gan edrych ymlaen, rydym yn benderfynol o weld ein Rhaglenni Ewropeaidd ymysg y rhaglenni mwyaf llwyddiannus yn y Undeb Ewropeaidd am lunio amodau sy’n creu twf economaidd deallus, cynaliadwy a chynhwysol yn unol â strategaeth Ewrop 2020 a’r Rhaglen Lywodraethu.

“Rwyf nawr yn edrych ymlaen at ymgynghori ymhellach gyda phartneriaid yng Nghymru ar y ffordd orau i fuddsoddi unrhyw arian a gawn o Ewrop i’n helpu i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i greu swyddi a thwf economaidd a ffyniant i ddinasyddion Cymru.”

Tra roedd Mr Davies yn Ystagbwll, cafodd daith o amgylch y safle ac er nad yw wedi diystyru unrhyw ardal rhag cael arian, dywedodd y byddai’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod unrhyw arian a ddaw o Ewrop yn y dyfodol yn cael ei fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n dod â’r budd mwyaf i’r economi.

Dywedodd:  “O’i gymharu â’r cyfnodau ariannu blaenorol, mae’r cyfnod hwn yn gyfnod economaidd anodd ac felly, mae’n rhaid i ni roi blaenoriaeth i’r heriau i’r economi a’r farchnad lafur fel y gallwn weddnewid a rhoi hwb i economi Cymru.”

Ychwanegodd Mr Davies y bydd y sector amgylchedd a thwristiaeth yn parhau i fod yn rhan bwysig o raglenni’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru yn y dyfodol fel y mae pob un o sectorau allweddol eraill Llywodraeth Cymru.

Bydd ymgynghoriad llawn ar fanylion y Rhaglenni Ewropeaidd arfaethedig ar gyfer y cyfnod 2014-2020 yng Nghymru yn cael ei gynnal ddiwedd y flwyddyn.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

WEFO

Gwefannau

National Trust

Tagiau

Busnes a'r economi 20 Mai 2012 Yr economi Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i