Ar hyn o bryd, mae’r ffatri’n paratoi cigoedd a nwyddau delicatesen o dan frand Morrisons a bydd y buddsoddiad yn ei galluogi i gyflwyno amrywiaeth helaeth o brydau cyw iâr parod.
Dywedodd Mario Jacobs, Rheolwr Cyffredinol safle Glannau Dyfrdwy, bod digon o le yn y ffatri i gynhyrchu 40 tunnell o brydau cyw iâr parod yr wythnos ac i gyflenwi’r prydau i bob un o 477 o archfarchnadoedd Morrisons.
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £635,000 o’r Gronfa Twf Economaidd ar gyfer yr estyniad hwn. Nod y Gronfa yw helpu prosiectau buddsoddi sydd â’r potensial i greu swyddi ac ysgogi’r economi.
Bydd y buddsoddiad yn rhoi hwb uniongyrchol ychwanegol o tua £1.5 miliwn i’r economi leol trwy gynyddu’r bil cyflogau.
Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, bod Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod y sector bwyd-amaeth yn flaenoriaeth i economi Cymru ac mae ganddo’r potensial i dyfu ac i greu swyddi.
"Bydd creu 90 o swyddi a buddsoddiad cyfalaf o £6.4 miliwn yn hwb gwerth chweil i economi Gogledd Cymru ac yn hwb i hyder Glannau Dyfrdwy a’r clwstwr o gynhyrchwyr bwyd sydd wedi’u lleoli yno.
"Mae’r Gronfa Twf Economaidd yn ein helpu i gynnal ein Rhaglen Lywodraethu trwy gefnogi twf a chreu swyddi cynaliadwy. Mae’r estyniad hwn yng Nglannau Dyfrdwy wedi bod yn bosibl gydag arian o’r gronfa hon a bydd yn creu buddiannau uniongyrchol ac anuniongyrchol i economi’r ardal."
Llynedd, cyn y buddsoddiad diweddaraf hwn, buddsoddodd Morrisons mewn estyniad mawr yn y ffatri 175,000 troedfedd sgwâr a gwelwyd nifer y staff yn dyblu o 300 i 600. Hon yw menter weithgynhyrchu gyntaf Morrisons yng Nghymru ac erbyn hyn, mae’n berchen ar gwmni Farmers Boy.
Bydd y cwmni’n defnyddio’r buddsoddiad diweddaraf i brynu offer a pheiriannau newydd, diweddaru rhai cyfleusterau ac ail-drefnu llawr y ffatri er mwyn rhoi cartref newydd i’r llinellau bwyd a’r staff newydd.
Ychwanegodd Mario Jacobs:
"Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod ein safle yng Nglannau Dyfrdwy yn medru cwrdd ag anghenion y busnes wrth iddi barhau i dyfu. Rydym yn bles i ddatgan y bydd lan at 90 o swyddi yn cael eu creu a rydym yn awyddus i’w gweld yn cael eu llenwi gan bobl lleol."











