Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cwmni gyda chyllid ad-daladwy fel eu bod yn gallu caffael asedau a chyfarpar Plastic Sorting a’u cadw yng Nghymru, yn sail ar gyfer buddsoddi a chreu swyddi.
Roedd Plastics Sorting Ltd wedi sefydlu canolfan 100,000 troedfedd sgwâr i ddidoli a phuro deunyddiau plastig yn y Coed Duon yn 2007. Roedd deunydd gwastraff fel poteli plastig yn cael eu hailgylchu drwy eu troi’n fflochiau plastig, ond aeth y cwmni hwnnw i ddwylo’r gweinyddwyr a chollwyd 30 o swyddi.
Bydd y buddsoddiad hwn gan Viridis Plastics UK Ltd, sy’n is-gwmni i’r Grŵp Viridis Plastics o’r Iwerddon, yn creu 30 o swyddi i ddechrau – ond mae potensial i gyflogi 80 o bobl ymhen tair blynedd.
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart:
"Rwy’n falch iawn bod Viridis Plastics yn cael cyllid ad-daladwy gan Lywodraeth Cymru er mwyn i’r ffatri hon yn y Coed Duon gyflawni ei llawn botensial ac arwain y sector hwn.
"Drwy gefnogi’r buddsoddiad hwn, rydym yn creu cyfle i sefydlu busnes cynaliadwy ac mae yma botensial hefyd i’r cwmni ehangu gan ddod â manteision economaidd a swyddi i Gymru.
"Yn y sector ynni ac amgylcheddol y mae’r cwmni hwn yn gweithredu, sef un o’r sectorau y mae Llywodraeth Cymru’n eu blaenoriaethu am fod yma botensial ar gyfer twf. Mae’n dda iawn gen i glywed am gynlluniau hirdymor y busnes hwn felly."
Prosiect y cwmni yw ailgylchu/puro deunyddiau gwastraff i gynhyrchu fflochiau Polyethylene terephthalate (PET) a ddefnyddir yn bennaf gan y diwydiant pecynnu.
Yn ôl Gregg Twomey, Rheolwr Gyfarwyddwr Viridis Plastics Group, eu nod yw ennill eu plwyf fel cyflenwyr a phroseswyr deunyddiau o ansawdd uchel yn y sector a sefydlu un o’r busnesau adfer plastig mwyaf yn y DU.
"Rydym wedi ymrwymo i gynnal buddsoddiad mawr a hirdymor yn y prosiect hwn ac mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn hollbwysig ar gyfer lansio’r cynllun.
"Y ffatri hon yn y Coed Duon yw’r unig gyfleuster ailgylchu o’r fath yng Nghymru a’r un mwyaf yng ngorllewin y DU. Mae’n rhoi cyfle i ni arwain y ffordd wrth ddatblygu PET wedi’i ailgylchu. Rydym hefyd yn gobeithio gallu cydweithio gyda WRAP yn y dyfodol i ddatblygu prosiectau ailgylchu plastig eraill.
"Mae gennym gynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol yn yr arfaeth ac rydym yn awyddus i ehangu’r busnes hwn yng Nghymru. Yn y tymor canolig, rydym am sefydlu cyfleuster didoli plastig yng Nghymoedd y De, fydd â’r potensial i greu hyd at 80 o swyddi dros y tair blynedd nesaf."
Ychwanegodd eu bod eisoes wedi derbyn eisoes archebion sylweddol am 20,000 o dunelli o PET ac maen nhw’n disgwyl cyrraedd eu llawn gapasiti cynhyrchu o fewn 18 mis ac yn hyderus y byddant yn cyrraedd eu holl dargedi.
Mae’r cwmni’n amcangyfrif y bydd y cyfleuster yn y Coed Duon yn agor ym mis Mehefin ac maen nhw eisoes wedi dechrau recriwtio staff.
Bydd Viridis yn allforio cynnyrch i Ffrainc, yr Almaen a’r Iwerddon ar y cychwyn.











