Bydd y cyfleuster newydd ym Mharc Busnes Llantrisant ym Mhont-y-clun yn cynhyrchu ystod o danciau masnachol ar gyfer storio dŵr a disgwylir i’r cwmni greu mwy o swyddi wrth iddo dyfu.
Wrth agor y cyfleuster newydd heddiw, dywedodd Mrs Hart:
"Rwy’n blês iawn bod y cwmni’n ail-fuddsoddi yng Nghymru a’i fod wedi dewis Cymru ar gyfer y cyfleuster newydd hwn oherwydd yr argraff dda y mae’r gweithlu wedi’i chreu arno.
"Newyddion da yw clywed bod y cwmni eisoes wedi creu deg ar hugain o swyddi newydd a bod potensial ar gyfer creu mwy yn y dyfodol. Dymunaf bob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol a bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gydweithio â Balmoral Tanks i gefnogi unrhyw gynlluniau i ddatblygu ymhellach yn y dyfodol."
Mae cysylltiad agos rhwng Balmoral a De Cymru, gan iddo ddod i feddiant Horseley Bridge Tanks yn Ffynnon Taf yn 2003, a gwneud y penderfyniad i fuddsoddi swm sylweddol yn y cyfleuster newydd hwn, ar sail llwyddiant cynnyrch Horseley Bridge.
Bydd y cwmni’n cynhyrchu tanciau dŵr, rhai wedi’u mowldio a rhai wedi’u hadeiladu o ddarnau o ddur, a byddan nhw hefyd yn cynhyrchu tanciau siâp sylindr wedi’u gwneud o ddur wedi’i galfaneiddio. Mae’r cwmni’n geffyl blaen yn ei faes yn y byd.
Mae llawer o gynnyrch y cwmni’n cael ei gynhyrchu ar gyfer marchnadoedd tramor gan gynnwys tir mawr Ewrop, Gorllewin Affrica a’r Dwyrain Canol.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Balmoral Tanks, Allan Joyce, ei fod yn hapus dros ben bod y cwmni wedi dod â’i weithrediadau cynhyrchu tanciau dŵr o leoliadau ledled y DU i Lantrisant.
"Rydyn ni’n falch bod gennym bresenoldeb amlwg yn Ne Cymru. Mae gan yr ardal enw eithriadol o dda ar gyfer cynhyrchu nwyddau o ansawdd da. Mae ymrwymiad ein cwmni i wella’n barhaus wedi mynd â ni i reng flaen y farchnad storio dŵr byd-eang.
"Mae gennym enw da am fod yn gwmni arloesol, rhagweithiol iawn, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae’r nodweddion hyn yn perthyn i Dde Cymru ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu’n perthynas hir a llwyddiannus gyda’r cymunedau lleol."
Mae Balmoral Tanks yn gweithredu’n bennaf yn y sector amgylcheddol a pheirianneg sifil lle caiff effeithiau ecolegol yr holl gynnyrch eu monitro.
Mae tanciau’r cwmni wedi’u cymeradwyo ar gyfer storio dŵr yfed ac ar gyfer eu defnyddio mewn systemau chwistrellu i ddiffodd tân.











