I nodi llwyddiant cychwynnol y prosiect Futsal gwerth £1.5 miliwn, bydd tua 75 o ddynion a menywod ifanc o'r Iwerddon yn ymweld â Bangor ar Mai 26 er mwyn chwarae yn erbyn timau lleol a myfyrwyr o ganolfan Futsal gyntaf Cymru, a agorodd yn Llangefni, Sir Fôn yn yr hydref llynedd.
Gobaith y trefnwyr yw y bydd y cynllun yn adeiladu ar ei lwyddiant cychwynnol ac yn ehangu ledled gogledd-orllewin Cymru yn ystod y flwyddyn nesaf.
Yn ôl swyddog prosiect Futsal Gogledd Cymru, Tony Maguire mae'r prosiect eisoes wedi helpu nifer o fyfyrwyr yn yr ardal i ddod o hyd i waith.
Dywedodd Tony:
"Mae ambell un o'r bechgyn wedi gorfod rhoi'r gorau iddi gan eu bod wedi dod o hyd i swyddi tra'u bod ar y cynllun.
"Ac mae dau ifanc arall newydd ennill cymhwyster hyfforddi ac yn bwriadu cychwyn hyfforddi chwaraewyr eraill eu hunain.
"Rydyn ni'n falch iawn o groesawu'r chwaraewyr Gwyddelig i Gymru. Mae'n gyfle gwych i ddathlu popeth a gyflawnwyd hyd yma ac i godi proffil ein prosiect."
Mae Futsal yn fersiwn o bêl-droed pump bob ochr y mae'r cynllun yn ei ddefnyddio i ennyn diddordeb pobl ifanc. Mae'r rhaglen yn cael ei harwain gan Gymdeithas Bêl-droed Iwerddon mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru gyda £1m o gefnogaeth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop dan Raglen Drawsffiniol Cymru Iwerddon.
Yn ogystal â pherffeithio sgiliau pêl-droed a hyfforddi, mae'r cwrs 12 wythnos yn cwmpasu pynciau fel llythrennedd a rhifedd, Cymorth Cyntaf, amddiffyn plant, paratoi at waith, bwyta'n iach a llunio CV.
Dywedodd Tony:
"Rydyn ni'n gwneud yn si?r eu bod yn gwneud pethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Mae popeth sy'n cael ei wneud, boed yn rhifedd neu beth bynnag, ar thema pêl-droed.
"Rydyn ni'n defnyddio pêl-droed fel arf i ddenu pobl ifanc. Rydyn ni am wella'u siawns o gael eu cyflogi. Erbyn diwedd y cwrs bydd y myfyrwyr wedi casglu naw neu 10 o gymwysterau."
Wedi mwynhau llwyddiant cychwynnol yn Llangefni, mae'r cynllun bellach yn barod i ehangu ledled gogledd-orllewin Cymru. Bydd dwy ganolfan newydd yn agor ym mis Medi, ac mae bwriad agor dwy arall y flwyddyn nesaf, gan ddod â chyfanswm o bum canolfan i Gymru.
Gobeithir y bydd y canolfannau'n creu cysylltiadau cadarn gyda chlybiau pêl-droed lleol, a fydd yn fanteisiol i'r timau gan ddarparu hyfforddwyr a chynnig profiad a chyfleoedd cyflogaeth i'r rhai sy'n cyfranogi.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies:
"Rwy'n falch o glywed bod y fenter hon sy'n derbyn nawdd Ewropeaidd yn rhoi cyfle i bobl ifanc ennill sgiliau hanfodol a chael cymorth ymarferol i sicrhau eu llwyddiant yn y dyfodol."
Mae Rhaglen Drawsffiniol Cymru Iwerddon yn cael ei harwain gan Gynulliad Rhanbarthol De a Dwyrain Iwerddon (SERA) mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Y nod yw cefnogi prosiectau cydweithredol i wella sgiliau a hybu twf economaidd.











