Mae’r cyfarfodydd yn rhan o ymgynghoriad Cymru gyfan ar ddatblygu Strategaeth Arloesi Cymru.
Bydd yn adeiladu ar y strategaeth Gwyddoniaeth I Gymru, a lansiwyd yn gynharach eleni, oedd yn nodi’r angen am strategaeth ategol gyfredol i ddelio ag elwa masnachol ymchwil a datblygu a hefyd hybu arloesedd.
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart ei bod am gael y farn ehangaf bosib ar y pwnc ac mae’r ymgynghoriad yn rhoi’r cyfle i ddylanwadu ar ddatblygu strategaeth i Gymru.
“Mae arloesi yn cael ei gydnabod fel un o’r prif ffactorau ar gyfer twf economaidd a chreu gwaith. Mae’n cael ei ystyried gan nifer hefyd fel y ffordd orau y gall cymdeithas fynd i’r afael â heriau megis poblogaeth sy’n heneiddio a phrinder adnoddau ac i wella’r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus.
“Rydym am i’r holl randdeiliaid gyfranogi a nodi materion, gan awgrymu ffyrdd i wella perfformiad arloesi Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cymryd mantais o’r cyfarfodydd hyn.”
Bydd arbenigwyr arloesi hefyd wrth law yn y cyfarfodydd er mwyn trafod sut y gallant helpu busnesau unigol, a bydd gwybodaeth ar gael hefyd ar Gyllid a Chymorth Arloesi.
Dyma fanylion y cyfarfodydd:
- 14 Mehefin – 09:00-12:00 – Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Merthyr
- 19 Mehefin – 09:00-12:00 – Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno
- 20 Mehefin – 09:00-12:00 – Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Aberystwyth
I archebu lle yn un o’r digwyddiadau hyn e-bostiwch innovationwales@wales.gsi.gov.uk neu ffoniwch 030 061 6043











