Mae ffigurau’r HMRC yn dangos bod yr allforion o Gymru i wledydd yr UE wedi cynyddu £53 miliwn (un y cant) ac i wledydd y tu allan i’r UE £575 miliwn (wyth y cant).
Yn ystod chwarter cyntaf 2012, gwelwyd cynnydd bychan (£14 miliwn) yng ngwerth allforion Cymru ar y chwarter blaenorol, hynny o’i gymharu â chwymp o 3.3 y cant yng ngwerth allforion y Deyrnas Unedig yn gyfan.
Meddai Mrs Hart:
"Mae allforion yn enwog am fod yn ddi-ddal ond mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod allforion Cymru’n gwneud yn dda ac yn wir yn cynyddu yn y cyfnod anodd hwn yn economi’r byd.
"Rhaid croesawu’r cynnydd hwn o bump y cant yn allforion Cymru. Rhwng 1999 a’r pedwar chwarter hyd at chwarter cyntaf 2012, mae allforion Cymru wedi mwy na dyblu (107.7 y cant) o’i gymharu â chynnydd o ddim ond 71.3 y cant ar gyfer y Deyrnas Unedig yn gyfan.
"Er hynny, rydym yn dwysáu ein hymdrechion i annog cwmnïau o Gymru i fanteisio ar bob cyfle i fasnachu â gwledydd tramor trwy arwain rhaglen eang o deithiau masnach i Ddwyrain Asia, Gogledd America, Gwledydd y Gwlff a marchnadoedd pwysig eraill dros y 18 mis nesaf."











