Yn ystod yr hydref llynedd, sefydlodd y Gweinidog y Grŵp dan Gadeiryddiaeth yr Athro Brian Morgan, o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, i edrych ar ffyrdd o ddefnyddio’r drefn ardrethi busnes yng Nghymru i annog datblygu a thwf economaidd.
Mae’r adroddiad ¬– Adolygu Ardrethi Busnes Cymru: Cymell Twf – yn cynnwys 19 argymhelliad allweddol sy’n cwmpasu amrywiol faterion yn ymwneud ag ardrethi busnes yng Nghymru.
Wrth ei gyhoeddi, dywedodd Mrs Hart wrth aelodau’r Cynulliad y byddai’n ymateb i’r argymhellion ar ôl ymgynghori â’i chydweithwyr yn y Cabinet dros yr haf ac ar ôl i’r Athro Morgan drafod argymhellion yr adroddiad gyda busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Gan ddiolch i’r Athro Morgan a’r Grŵp am eu gwaith, dywedodd Mrs Hart:
“Rhoddais dasg glir a heriol i’r Grŵp – gweld a oes modd defnyddio’r drefn ardrethi busnes i hybu twf economaidd, ac ym mha ffordd.”
Dywedodd bod 19 argymhelliad yn yr Adroddiad wedi’u seilio ar negeseuon clir iawn – yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n realistig, ymarferol a chyraeddadwy.
Dywedodd Mrs Hart:
“Gan fod nifer o’r argymhellion yn cyffwrdd mwy nag un portffolio gweinidogol, bydd angen i ni ymateb fel Llywodraeth. Rwy’ eisoes wedi ysgrifennu at gydweithwyr yn y Cabinet i ddechrau’r broses honno.
“Hefyd, rwy’ wedi gwahodd yr Athro Morgan i agor deialog gyda rhanddeiliaid allweddol. Rwy’ am iddo egluro’i ganfyddiadau a gofyn am adborth gan nifer o bartneriaid gan gynnwys Cadeiryddion Ardaloedd Menter, Panelau’r Sector ac eraill.
“Dechrau’r ddeialog yw’r Adroddiad hwn - nid y diwedd. Mae’n rhoi llawer i ni ei ystyried wrth edrych ar y sialensiau i greu system well, fwy atebol a chystadleuol ar gyfer ardrethi busnes yng Nghymru.”
Dywedodd yr Athro Brian Morgan:
“Daw’r Adroddiad Ardrethi Busnes o ganlyniad i waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn trafod gyda’r gymuned fusnes a chynnig argymhellion i gefnogi datblygu lleol.
“Mae’r Adroddiad yn pwysleisio o’r cychwyn mai prif swyddogaeth ardrethi busnes yw codi arian er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau lleol. Yn y cyd-destun hwn rydyn ni’n argymell cadw incwm o ardrethi busnes yn lleol er mwyn annog awdurdodau lleol i gynyddu eu sylfaen drethi.
“Hefyd, er bod gostyngiadau ardrethi busnes yn rhan bwysig o’r fframwaith polisi, rydyn ni’n pwysleisio nad ydynt yn ateb pob problem adfywio economaidd. Fodd bynnag, gallant wneud gwahaniaeth fel rhan o strategaeth ehangach i gefnogi blaenoriaethau sector y Llywodraeth, sbarduno buddsoddiad a chreu mantais gystadleuol.”











