Mae’r buddsoddiad yn derbyn £436,000 o nawdd gan Lywodraeth Cymru ac yn diogelu 22 o swyddi.
Meddai Mrs Hart:
"Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi helpu i wneud yn siŵr bod y ganolfan wasanaethu newydd yn dod i Gymru a bod y buddsoddiad yn mynd yn ei flaen yng Nghaerffili.
"Rwy’n falch iawn bod y gwaith wedi dechrau ar ddodrefnu’r ganolfan newydd a fydd yn dod â buddiannau uniongyrchol ac anuniongyrchol i’r economi leol ac yn creu nifer dda o swyddi newydd a chyfleoedd am yrfa."
Cyflenwi deunydd pacio eildro ar gyfer nwyddau traul yw gwaith y cwmni rhyngwladol hwn. Ym Mharc Busnes Caerffili y mae’r ganolfan wasanaethu newydd a bydd yn ei ddefnyddio i ganoli ei waith TG, Personel a Chyllid.
Mae prif swyddfa gwaith ailgylchu’r grŵp eisoes yng Nghaerffili, gan gyflogi 88 o bobl o’r cyfanswm o 392 sy’n cael eu cyflogi ar safleoedd ledled Cymru.
Meddai Peter McGuinness, rheolwr gyfarwyddwr DS Smith Recycling:
"Bydd ein canolfan wasanaethu ar y cyd newydd yn ein galluogi i weithio’n fwy effeithiol, ac yn y pen draw i roi gwasanaeth gwell a mwy am eu harian i’n cleientiaid tra’n parhau i gadw at ein hymrwymiad i gynnal amgylchedd gwaith cynaliadwy."
Bydd y buddsoddiad yn hwb uniongyrchol ychwanegol i’r economi leol trwy’r bil cyflogau uwch ar mae’r cwmni eisoes wedi dechrau recriwtio.











