Mae’r Gweinidog Busnes, Edwina Hart wedi cymeradwyo tua £500,000 o gyllid ar gyfer rhaglen 2012/13 a fydd yn cynorthwyo tua 90 busnes yng Nghymru i chwilio am gyfleoedd masnachu a busnes newydd mewn gwledydd tramor.
Bydd y rhaglen yn cychwyn dydd Llun 18 Mehefin pan fydd pum cwmni sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn ymuno â dirprwyaeth Masnach a Buddsoddi y DU ac yn cyfranogi yn y Bio International Convention, Boston, UDA – y digwyddiad byd-eang mwyaf ar gyfer y diwydiant biodechnoleg.
Mae’r digwyddiad yn denu rhai o’r enwau mwyaf ym myd biodechnoleg, yn cynnig cyfleoedd allweddol i rwydweithio a dod o hyd i bartneriaid, ac yn taflu goleuni ar y prif dueddiadau sy’n effeithio ar y diwydiant. Mae dirprwyaeth Cymru’n cynnwys Biomonde, Biocatalysts, Biotec Services International, Ruskinn, Simbec Research a Q Chip.
Dywedodd Mrs Hart:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi twf busnesau a chreu swyddi ac rwy’n falch o gyhoeddi ein cefnogaeth i’r rhaglen masnach ryngwladol.
"Mae Gwyddorau Bywyd yn un o’n sectorau allweddol sydd â photensial mawr i weld twf, ac fe fydd y rhaglen fasnach newydd hon yn helpu cwmnïau sy’n cymryd camau i dyfu’n rhyngwladol.
"Bydd yn galluogi cwmnïau i fod yn rhan o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd masnach mwyaf y byd mewn marchnadoedd tramor strategol allweddol, gan hyrwyddo eu nwyddau a’u gwasanaethau a thynnu sylw at arbenigedd y sector yng Nghymru."Mae gan Gymru gryfderau penodol mewn dyfeisiau meddygol, gwasanaethau fferyllol a meysydd newydd fel e-iechyd a meddygaeth atgynhyrchiol. Dewiswyd y digwyddiadau masnachu sy’n cynnig y cyfleoedd gorau i’r is-sectorau hyn."
Mae cynyddu masnach ryngwladol ac allforion yn nod allweddol i banel y Sector Gwyddorau Bywyd er mwyn tyfu busnesau a chynyddu gallu cwmnïau Cymru i gystadlu.
Bydd tîm sector Gwyddorau Bywyd Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda MediWales, Cymdeithas Diwydiannau Gofal Iechyd Prydain, Masnach a Buddsoddi y DU a’r holl sefydliadau eraill â diddordeb er mwyn gwneud y gorau o bob digwyddiad.
Mae disgwyl i’r rhaglen gynhyrchu dros 60 pwynt cyswllt mewnfuddsoddi newydd, arwain at tua £10miliwn o gytundebau masnachu newydd i gwmnïau o Gymru sy’n cyfranogi, a darparu cyfle i gwmnïau Cymru adeiladu perthynas â dosbarthwyr a chwsmeriaid sydd eisoes yn bodoli er mwyn meithrin cyfleoedd masnachu yn y dyfodol.











