Bydd y digwyddiad – Gwneud Busnes yn UDA – yn amlygu a hyrwyddo manteision a chyfleoedd yn ogystal â thrafod y prif feysydd i’w hystyried wrth gynnal busnes yn UDA.
Bydd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, yn bresennol yn y seminar, a drefnir gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Siambr Masnach De Cymru, ac mae hi’n croesawu’r cyfle newydd hwn i gydweithio.
Dywedodd:
"UDA yw marchnad allforion fwyaf Cymru, ac mae’n bwysig dros ben i fusnesau Cymru ar draws pob sector. Rydym yn gwerthfawrogi ein cysylltiadau busnes ag UDA ac yn ystyried ei bod yn hollbwysig meithrin perthynas glos â chynrychiolwyr busnes allweddol er mwyn cydweithio i gefnogi ac ysgogi twf yr economi.
"Drwy weithredu mewn partneriaeth fel hyn, gallwn ddatblygu dull strategol wedi’i dargedu i helpu busnesau i gynyddu’r cyfleoedd masnachu rhyngwladol.
"Cynhelir y seminar hwn ar drothwy taith fasnach fawr newydd i Washington dan arweiniad Llywodraeth Cymru ym mis Medi, ac mae’n bleser gen i ddweud ein bod yn cydweithio’n agos â Llysgenhadaeth UDA, Fairfax County, Siambr Fasnach De Cymru a Llysgenhadaeth Prydain i sefydlu cysylltiadau busnes allweddol wrth baratoi ar gyfer y daith honno."
Ychwanegodd y Gweinidog ei bod yn gobeithio y byddai cwmnïau’n ymuno â’r ar y daith fasnach er mwyn creu mwy o gyfleoedd masnachu yn UDA.
Bydd Andrew Williams, Arbenigwr Masnachol yn Llysgenhadaeth UDA a’r Dr Gerald L Gordon, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Awdurdod Datblygu Economaidd Fairfaz County, yn annerch y seminar, ynghyd â Graham Morgan, Cyfarwyddwr Siambr Fasnach De Cymru.
Mae Awdurdod datblygu Economaidd Fairfax County yn hyrwyddo’r ardal honno fel un o leoliadau busnes gorau’r byd. Yn ôl cylchgrawn Time, mae Fairfax County yn “one of the great economic success stories of our time” ac mae’r cylchgrawn Site Selection yn honni bod yr Awdurdod Datblygu yn un o’r 10 gorau o’i fath yng Ngogledd America. Ar hyn o bryd mae 75 cwmni o’r DU wedi dewis lleoli eu pencadlys busnes Americanaidd yn Fairfax County.
Dywedodd Dr Gordon;
"Mae yma gyfleoedd rhagorol i ehangu’r cysylltiadau busnes rhwng Cymru ac UDA ac mae Fairfax County yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad hwn i helpu cwmnïau i gael dechrau da."
Bydd nifer o gwmnïau o Gymru’n siarad am eu profiad o fasnachu, allforio a gweithio yn UDA hefyd.











