Gwnaed y cyhoeddiad gan Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, a oedd yng Nghaerffili i agor swyddfeydd Attenda’n swyddogol. Mae’r datblygiad wedi cael £1.98 miliwn gan Lywodraeth Cymru sydd wedi helpu i sicrhau bod y swyddi’n dod i Gymru er gwaethaf cystadlu brwd gan y Weriniaeth Tsiec.
Mae’r cwmni o Staines ger Llundain yn un o’r darparwyr gwasanaethau rheoli TGCh mwyaf blaenllaw yn Ewrop. Y math o gwsmeriaid y mae’r cwmni’n edrych ar eu hôl yw busnesau mawr neu ganolig sydd â phrif swyddfeydd yn y DU a thramor.
Wrth agor swyddfa newydd Attenda yng Nghaerffili, dywedodd Mrs Hart ei bod hi’n falch iawn bod y gefnogaeth y mae’r cwmni wedi’i chael gan y Llywodraeth wedi helpu’r cwmni i ddewis Cymru fel lleoliad ar gyfer ei brosiect ehangu mawr.
Dywedodd:
"Mae Attenda’n gweithredu yn un o’n sectorau pwysicaf ac mae ganddo’r potential i greu’r amodau i dyfu. Rydym yn croesawu’r buddsoddiad hwn i sector TGCh Cymru yn fawr.
"Nid yn unig y bydd Attenda’n creu 150 o swyddi o ansawdd uchel ond mae’r cwmni wedi ymrwymo i ddefnyddio cadwyn gyflenwi leol fydd yn dod â manteision i’r economi leol.
"Roedd y cwmni’n ystyried nifer o leoliadau eraill ar gyfer ehangu’r cwmni ond Cymru aeth â hi a hynny am fod gweithlu sydd â’r sgiliau angenrheidiol ar gael iddynt ac mae gennym amgylchedd busnes lle gallant ffynnu."
Bydd y swyddi yng Nghaerffili’n swyddi newydd sbon ac maent yn dilyn twf Attenda. Mae’r criw cyntaf o staff eisoes wedi dechrau yn swyddfa’r cwmni yn Nhŷ Brittania ym Mharc Busnes Caerffili. Bydd y broses recriwtio'n parhau am y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd Simon Downing, Cadeirydd Anweithredol Attenda:
"Y prif reswm yr ydym wedi dewis agor ein hail swyddfa yng Nghymru yw am fod gan y staff sydd ar gael i ni y sgiliau a’r cymwysterau angenrheidiol."
Ychwanegodd:
"Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn gallu integreiddio’r prosiect ehangu hwn yn esmwyth i Gymru heb ei fod yn effeithio ar ein busnesau eraill."











