Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Mrs Hart yn dweud wrth gwmnïau o gyfreithwyr yn Ninas Llundain bod Cymru’n barod am fusnes

Aeth y Gweinidog Busnes Edwina Hart i ganol byd cyfreithwyr Llundain â’r neges mai Cymru yw un o ranbarthau gorau ym Mhrydain ar gyfer y Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol.
Dydd Iau 28 Mehefin 2012

Wrth annerch mewn cinio wnaeth hi cynnal gyda John Wotton, Llywydd Cymdeithas y Gyfraith yng nghartref Cymdeithas y Gyfraith yn Chancery Lane, Llundain, fe wnaeth y Gweinidog hyrwyddo strategaeth dwf Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector i gynulleidfa ddethol o gynrychiolwyr cwmnïau cyfreithiol mawr Dinas Llundain.

Gyda hi oedd Theodore Huckle QC, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru a Christopher Nott, Partner Rheoli Capital Law a Chadeirydd Panel y Sector Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol.

Dywedodd Mrs Hart wrth gyfarwyddwyr, partneriaid ac uwch swyddogion y cwmnïau hyn o gyfreithwyr bod Cymru’n barod am fusnes.  Roedd y gwesteion yn cynnwys hefyd aelodau’r ‘Magic Circle’ – term anffurfiol i ddisgrifio’r cwmnïau cyfreithiol a siambrau bargyfreithwyr sydd, dywedir, gyda’r mwyaf blaenllaw ym Mhrydain.

Mae’r strategaeth newydd ar gyfer y Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol am weld nifer y bobl sy’n gweithio yn y sector yn cynyddu o 124,000 i 200,000 erbyn 2012 gan gynyddu swyddi a GVA (Gwerth Ychwanegol Crynswth) y sector yn gynt na’r cyfartaledd Prydeinig bob blwyddyn.

Dywedodd Mrs Hart bod Cymru’n cynnig cyfleoedd heb eu hail i gwmnïau o gyfreithwyr, yn enwedig o gofio mai Caerdydd yw’r unig ardal fenter ym Mhrydain sydd wedi’i chreu’n unswydd ar gyfer y sector.

Meddai’r Gweinidog:

"Rwy’n falch o’r cyfle hwn i dynnu’ch sylw at yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig a hoffwn annog cwmnïau sy’n gweithio ym myd y gyfraith i feddwl am Gymru fel lle i symud iddo pan fyddan nhw’n ehangu ac yn buddsoddi yn y dyfodol.  

"Rydym yn targedu cwmnïau cyfreithiol rhyngwladol, yn gyntaf y rheini sydd â’u swyddfeydd yn Llundain, gyda chymhellion deniadol o ran hyfforddiant a sgiliau allai wella eu perfformiad a’u gwneud yn fwy cystadleuol.

"Mae Rhanbarth Dinas Caerdydd yn gwerthfawrogi ei gysylltiadau busnes â Llundain ac rydym yn credu bod ein perthynas â chynrychiolwyr blaenllaw’r gyfraith yn allweddol i weithio gyda’n gilydd i gefnogi a symbylu’r economi i dyfu.

"Mae gan Dde Cymru eisoes enw da am ei gwasanaethau cyfreithiol, gyda nifer o gwmnïau cyfreithiol rhyngwladol â’u swyddfeydd yma, cwmnïau fel Geldards, Eversheds a Hugh James – y cwmni mwyaf o gyfreithwyr yng Nghymru.  Rydym yn disgwyl ymlaen at weld rhagor yn ymuno â nhw."

Gall cwmnïau cyfreithwyr o Lundain wneud eu hunain yn fwy cost-effeithiol trwy gynnal eu gwaith ‘swyddfa gefn’ yn yr Ardal Fenter newydd, gan ddefnyddio’r gronfa ragorol o sgiliau sydd ar gael yn Rhanbarth Dinas Caerdydd.

Cafodd y strategaeth ar gyfer twf ei llunio gan banel cynghori annibynnol o dan arweiniad Christopher Nott a bydd yn:

  • Creu rhwydwaith o lysgenhadon yn Llundain a thu hwnt i helpu i ledaenu’r neges bod ‘Cymru ar agor ar gyfer busnes’.
  • Gweithio gyda’r 100 cwmni Cyllid a Phroffesiynol mwyaf yng Nghymru i ddatblygu cynllun busnes 3 blynedd i glustnodi cyfleoedd iddynt dyfu a mynd i’r afael â’r ffactorau allai arafu’r twf hwnnw.
  • Enwi’r busnesau bach a chanolig sy’n tyfu’n gyflym a llunio cynllun i gynnal eu twf.
  • Helpu busnesau sy’n tyfu i gael cyllid a help proffesiynol.
  • Hybu cydweithio rhwng y diwydiant, ysgolion a phrifysgolion i gynnal ymchwil a sicrhau bod y cwricwlwm a’r sgiliau yn cyfateb i anghenion y busnes.
  • Codi ymwybyddiaeth myfyrwyr a busnesau sy’n tyfu am gyfleoedd am yrfa yn y sector er mwyn sicrhau bod cronfa dda o weithwyr proffesiynol medrus yn parhau i fod ar gael yng Nghymru.
 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y sector Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol Busnes a'r economi

Tagiau

Busnes a'r economi 28 Mehefin 2012 Yr economi Programme for Government - Growth Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i