Yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad, dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd:
"Rwy’ wedi ymrwymo i gydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu’r rhaglenni newydd. Drwy’r adolygiad annibynnol hwn byddwn yn dysgu o’n profiadau wrth reoli’r rhaglenni Ewropeaidd hyd yn hyn ac yn gweld sut gallwn wella a symleiddio’n prosesau i’n cwsmeriaid, gan gynnwys cydweithio â’r sector preifat i helpu i gyflawni’n hamcanion economaidd.
"Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried y dulliau gorau ar gyfer hybu a hyrwyddo’r cyllid Ewropeaidd sydd ar gael – gan gynnwys y Cronfeydd Strwythurol, y Cynllun Datblygu Gwledig a’r Gronfa Pysgodfeydd, Horizon 2020, a Life+. Mae hyn yn hynod o bwysig i sefydliadau yn y cyfnod hwn o gynni ariannol."
Dr Grahame Guilford fydd yn arwain yr adolygiad. Mae ganddo brofiad helaeth ym maes busnes y sector preifat a bu’n aelod gweithgar mewn partneriaethau Ewropeaidd yng Nghymru ers tro. Mae’n aelod o Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd ôl-2013 a Phwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru Gyfan 2007–2013.
Dywedodd Dr Guilford:
"Rwy’ wedi bod yn trefnu partneriaethau ar gyfer arian Ewropeaidd ac yn rhan o fforymau datblygu economaidd ers nifer o flynyddoedd ac rwy’n edrych ymlaen at helpu i greu sail dystiolaeth gadarn i reoli rhaglenni Ewropeaidd y dyfodol er lles ein busnesau, ein cymunedau a’r Cymry."
Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar symleiddio’r broses o wneud cais am arian, sicrhau canlyniadau wrth gyflawni prosiectau, a gwneud y gorau o’r sector preifat. Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried sut i integreiddio rhaglenni cyllid Ewropeaidd gan gynnwys defnyddio un llwyfan e-fusnes er mwyn i gwsmeriaid allu rheoli eu cyllid, dilyn rheolau cymhwysedd ac archwilio cyffredin, monitro’u sefyllfa ariannol a’u systemau talu.
Bydd dwy ran i’r adolygiad, a’i amcan fydd cynnig argymhellion cychwynnol erbyn diwedd mis Tachwedd 2012 ac erbyn diwedd mis Chwefror 2013. Bydd yr adolygiad yn cyd-fynd ag ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y rhaglenni newydd yn nes ymlaen eleni cyn cynnal trafodaethau ffurfiol â’r Comisiwn Ewropeaidd ganol 2013.
Bydd yr adolygiad annibynnol yn ategu’r gwaith datblygu ôl-2013 sydd eisoes ar y gweill gyda phartneriaid Cymru – gan gynnwys yr Ymarfer Myfyrio diweddar, y Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd a’r Ffrydiau gwaith eraill.
Daw’r cyhoeddiad am yr adolygiad yn sgil datganiad diweddar y Dirprwy Weinidog (8 Mai) ar flaenoriaethau buddsoddi ar gyfer y rhaglenni Ewropeaidd arfaethedig 2014-2020.











