Mae’r hwb ariannol gwerth £190,000 gan y Gronfa yn golygu bod Hobbs Valve Ltd yn gallu prynu siop beiriannau tra-chyflawn ar Ystad Ddiwydiannol Trecenydd yng Nghaerffili, ddwywaith maint ei safle ar hyn o bryd ar yr un ystad.
Bydd y cwmni – sy’n cynhyrchu ystod o falfiau arbenigol iawn wedi’u patentu ar gyfer piblinellau diwydiannol – yn gallu cynhyrchu mwy ar ei safle, gan roi mwy o reolaeth iddynt dros ansawdd a chyflenwi.
Mae’r buddsoddiad eisoes wedi creu deg swydd newydd, gan godi nifer y staff i dri deg chwech.
Dywedodd y cadeirydd Alun Hobbs, a sefydlodd y busnes saith mlynedd yn ôl, bod y buddsoddiad yn bwysig iawn i’r cwmni a’i fod wedi sicrhau bod Cymru’n elwa arno. Roedd y cwmni wedi bod yn ystyried agor cyfleuster arall yn India.
Esboniodd Mr Hobbs:
“Mae ein holl waith gweithgynhyrchu’n cael ei wneud ar ein safle yn Nhrecenydd ond cafodd yr elfennau peiriannu eu his-gontractio ac roedd rhai cyflenwyr yn ei chael hi’n anodd i fodloni’r galw, y costau, a’r ansawdd ac i gwblhau’r gwaith ar amser.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn golygu y bydd mwy o reolaeth gyda ni o’r elfennau hyn. Mae’n ehangiad enfawr i ni ac mae cymorth grant gan Lywodraeth Cymru wedi’n helpu ni i aros yng Nghymru ac mae’n creu sylfaen i ddatblygu mwy yn y dyfodol.”
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart ei bod hi’n enghraifft arall sy’n amlygu sut mae’r Gronfa Twf Economaidd yn helpu busnesau yng Nghymru.
Dywedodd:
"Pleser yw clywed bod busnesau fel Hobbs Valve yn medru ehangu a chreu swyddi o ganlyniad i gymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae’n hynod bwysig bod gan gwmnïau gyllid i achub ar gyfleoedd yn y farchnad fel maen nhw’n codi.”
Dywedodd Alun Hobbs bod Hobbs Valve wedi mwynhau twf o £1 filiwn bob blwyddyn ac mae’n gobeithio y bydd trosiant blynyddol y busnes yn tyfu i £40m/£50m.
Ychwanegodd:
“Mae llawer o alw am ein cynnyrch ond roedd maint ein safle’n ein hatal rhag cynhyrchu mwy – roedden ni’n rhedeg allan o le felly roedd y buddsoddiad hwn yn amserol iawn. Mae’r safle mwy o faint erbyn hyn yn golygu ein bod ni’n gallu cymryd archebion mwy mawr a thyfu’n gynt.”
Dim ond tri chwmni sy’n cynhyrchu’r math hwn o falfiau yn y DU a rhyw ddeg ar hugain yn y byd. Mae gan y cwmni ar hyn o bryd gyfran o lai na 1% o’r diwydiant sydd gwerth $1 biliwn a’i nod yw dod yn un o’r deg cyflenwr byd-eang gorau a chael cyfran o 5% o’r farchnad.
Mae ei amrywiaeth o falfiau wedi’u gwneud o ystod eang o fetelau ac maen nhw’n addas ar gyfer nifer o beiriannau. Prif gynnyrch y busnes yw deunydd sy’n gwrthsefyll rhwd sy’n addas ar gyfer gwasanaethau ar y môr/morol.
Mae’r cwmni newydd gwblhau contract gwerth £1.8m i gyflenwi falfiau ar gyfer systemau balast dau long newydd a fydd yn cael eu hadeiladu yn y DU.











