Caiff yr Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth eu penodi gan y Gweinidog Busnes Edwina Hart i hybu entrepreneuriaeth mewn modd rhagweithiol ac i roi arweiniad i Lywodraeth Cymru ynghylch polisïau ym maes entrepreneuriaeth.
Dywedodd Mrs Hart:
“Rydym yn awyddus i annog a chefnogi entrepreneuriaid yng Nghymru a gall yr Hyrwyddwyr gyfrannu cryn arbenigedd a phrofiad.
“Mae’r Hyrwyddwyr yn ein cynghori ynghylch pa gymorth sydd ei angen i helpu cwmnïau newydd a chwmnïau bach a all ffynnu a thyfu ac ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru feithrin diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru. Hoffwn groesawu Dr John Geraint i’r rhwydwaith.”
Cwmni Green Bay Media a gynhyrchodd gyfres lwyddiannus iawn BBC Wales ‘The Story of Wales’ a gyflwynwyd gan Huw Edwards ac mae hefyd yn cynhyrchu dramâu, rhaglenni dogfen a rhaglenni am y celfyddydau ar gyfer darlledwyr amlwg yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd gan gynnwys S4C, BBC, Channel 5, National Geographic a France Televisions.
Arferai John gynhyrchu rhaglenni ar gyfer y BBC a bu’n swyddog gweithredol â’r rhwydwaith. Mae wedi derbyn Gwobr gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol am ei gyfraniad eithriadol i fyd y teledu.
Dywedodd John:
“Mae entrepreneuriaeth wedi bod yn agwedd ganolog ar lwyddiant Green Bay dros y blynyddoedd. Mae’n bleser gen i dderbyn y cyfle hwn i hybu’r modd y gall busnesau helpu i greu Cymru fwy ffyniannus, er lles pawb.”
Gall John siarad Cymraeg yn rhugl ac mae’n un o ymddiriedolwyr Cyngor Celfyddydau Cymru. Bu hefyd yn aelod o Fwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru rhwng 2008 a 2011.
John yw Cadeirydd presennol Zoom Cymru, sef elusen ddatblygu ym maes y cyfryngau ar gyfer pobl ifanc sy’n gyfrifol am ŵyl ryngwladol fawr o ffilmiau plant. Caiff Zoom ei leoli yng nghyn ardal lofaol y De, ac enillodd grant sylweddol gan y Gronfa Loteri Fawr yn ddiweddar ar gyfer cynnal ei weithgareddau ar draws y wlad.











