Mae’r cwmni, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn frocer trafnidiaeth sy’n darparu limos â chauffeur, limos ‘hummer’, ceir ar gyfer priodasau, ceir gyda gyrrwr, bysiau a bysiau mini ar draws y Deyrnas Unedig.
Hefyd, mae gan y cwmni gynlluniau i ychwanegu gwasanaeth hofrennydd at ei bortffolio ac yn ddiweddar, oherwydd bod y cwmni’n ehangu, symudodd i gartref newydd yn Ocean Way sydd â mwy o le.
Mae’r Grŵp yn cyflogi 30 o staff ac fe sefydlwyd y cwmni ym mis Medi 2011 er mwyn gallu uno tri chwmni oedd yn masnachu ar wahân a bellach, mae’r cwmni wedi ymgorffori Limo Broker Cyf, Coach Broker Cyf a Cars for Stars Cyf.
Mae wedi llwyddo i lansio ei frand Limo Broker yng Ngogledd Iwerddon ac mae’n gobeithio cipio marchnadoedd yn America a Chanada. Y mis diwethaf, ymunodd 15 o staff newydd â’r ganolfan alwadau ac erbyn diwedd y flwyddyn, mae’n gobeithio y bydd 30 o bobl eraill yn ymuno â’r cwmni.
Dywedodd Tej Randeva, sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, fod y busnes wedi cael cymorth rhad ac am ddim gan wasanaeth cyngor i fusnesau Llywodraeth Cymru sef y Gwasanaeth Canolfannau Rhanbarthol a’i fod wedi bod o fudd mawr iddynt.
Drwy’r Gwasanaeth Canolfannau Rhanbarthol, cafodd y cwmni gymorth gan reolwr busnes gyda’i strwythur busnes, ei strategaeth farchnata a chymorth i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Hefyd, cafodd y cwmni gynnig hyfforddiant am bris gostyngedig a chymorth rhad ac am ddim gyda materion personél gan gynghorydd cydraddoldebau.
Llongyfarchodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart y grŵp am ei gynlluniau i ehangu.
"Diben Gwasanaethau’r Canolfannau Rhanbarthol yw rhoi amrywiaeth o gyngor a chymorth busnes i gwmnïau yng Nghymru fel y gallant weithio mor effeithlon ac effeithiol ag sy’n bosibl a rhoi eu cynlluniau ar gyfer ehangu ar waith. Rwy’n falch iawn bod y gwasanaethau wedi bod o fudd i’r Grŵp.
"Mae Transport Broker Group am greu nifer sylweddol o swyddi newydd fydd yn creu gwaith i bobl yr ardal ac rwy’n dymuno pob lwc iddynt gyda chynlluniau’r grŵp i ehangu."
Dywedodd Mr Randeva:
"Mae’r cymorth yr ydym wedi’i gael gan Wasanaethau’r Canolfannau Rhanbarthol wedi’n helpu i ehangu’r busnes a chreu swyddi newydd. Bydd hyn yn ein helpu i dyfu a chyflawni ein nod i ehangu’r busnes yn rhyngwladol. Roedd gallu trafod anghenion y busnes gyda rhywun sydd â blynyddoedd o brofiad ymarferol yn brofiad braf a chadarnhaol iawn."
Dywedodd Mr Randeva bod y cwmni’n rhoi blaenoriaeth i hyfforddi a datblygu staff a’u bod newydd wedi ennill safon aur Buddsoddwyr mewn Pobl.
Ychwanegodd bod y busnes yn llwyddo oherwydd bod ei staff galluog a medrus yn darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid.
Mae ceir a limos moethus y Grŵp yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan enwogion fel Kate Moss, Alexandra Burke a chast The Only Way is Essex a chleientiaid corfforaethol mawr fel Endemol, Sony, ITV a Foxy Bingo.
Mae’r cwmni’n darparu trafnidiaeth ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau fel partïon pen-blwydd plant, nosweithiau ‘prom’, partïon ‘ieir’ a ‘cheirw’, priodasau, digwyddiadau arbennig a thripiau i gampau arbennig a pharciau thema.











