Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Transport Broker Group yn y sêt flaen ar gyfer y dyfodol

Mae Transport Broker Group, sy’n llogi limos a cheir moethus ar gyfer digwyddiadau carped coch, yn mynd o nerth i nerth ac eleni, bydd yn dyblu nifer ei staff gan greu 30 o swyddi newydd.
Dydd Gwener 20 Ebrill 2012
Prif Weithdredwr Tej Randeva a Keith Walker, Rheolwr Cefnogaeth Busnes Gwasanaeth Canolfannau Rhanbarthol
Prif Weithdredwr Tej Randeva a Keith Walker, Rheolwr Cefnogaeth Busnes Gwasanaeth Canolfannau Rhanbarthol

Mae’r cwmni, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn frocer trafnidiaeth sy’n darparu limos â chauffeur, limos ‘hummer’, ceir ar gyfer priodasau, ceir gyda gyrrwr, bysiau a bysiau mini ar draws y Deyrnas Unedig.

Hefyd, mae gan y cwmni gynlluniau i ychwanegu gwasanaeth hofrennydd at ei bortffolio ac yn ddiweddar, oherwydd bod y cwmni’n ehangu, symudodd i gartref newydd yn Ocean Way sydd â mwy o le.  

Mae’r Grŵp yn cyflogi 30 o staff ac fe sefydlwyd y cwmni ym mis Medi 2011 er mwyn gallu uno tri chwmni oedd yn masnachu ar wahân a bellach, mae’r cwmni wedi ymgorffori Limo Broker Cyf, Coach Broker Cyf a Cars for Stars Cyf.

Mae wedi llwyddo i lansio ei frand Limo Broker yng Ngogledd Iwerddon ac mae’n gobeithio cipio marchnadoedd yn America a Chanada.  Y mis diwethaf, ymunodd 15 o staff newydd â’r ganolfan alwadau ac erbyn diwedd y flwyddyn, mae’n gobeithio y bydd 30 o bobl eraill yn ymuno â’r cwmni.

Dywedodd Tej Randeva, sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, fod y busnes wedi cael cymorth rhad ac am ddim gan wasanaeth cyngor i fusnesau Llywodraeth Cymru sef y Gwasanaeth Canolfannau Rhanbarthol a’i fod wedi bod o fudd mawr iddynt.

Drwy’r Gwasanaeth Canolfannau Rhanbarthol, cafodd y cwmni gymorth gan reolwr busnes gyda’i strwythur busnes, ei strategaeth farchnata a chymorth i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.  Hefyd, cafodd y cwmni gynnig hyfforddiant am bris gostyngedig a chymorth rhad ac am ddim gyda materion personél gan gynghorydd cydraddoldebau.

Llongyfarchodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart y grŵp am ei gynlluniau i ehangu.

"Diben Gwasanaethau’r Canolfannau Rhanbarthol yw rhoi amrywiaeth o gyngor a chymorth busnes i gwmnïau yng Nghymru fel y gallant weithio mor effeithlon ac effeithiol ag sy’n bosibl a rhoi eu cynlluniau ar gyfer ehangu ar waith.  Rwy’n falch iawn bod y gwasanaethau wedi bod o fudd i’r Grŵp.

"Mae Transport Broker Group am greu nifer sylweddol o swyddi newydd fydd yn creu gwaith i bobl yr ardal ac rwy’n dymuno pob lwc iddynt gyda chynlluniau’r grŵp i ehangu."

Dywedodd Mr Randeva:

"Mae’r cymorth yr ydym wedi’i gael gan Wasanaethau’r Canolfannau Rhanbarthol wedi’n helpu i ehangu’r busnes a chreu swyddi newydd.  Bydd hyn yn ein helpu i dyfu a chyflawni ein nod i ehangu’r busnes yn rhyngwladol.  Roedd gallu trafod anghenion y busnes gyda rhywun sydd â blynyddoedd o brofiad ymarferol yn brofiad braf a chadarnhaol iawn."

Dywedodd Mr Randeva bod y cwmni’n rhoi blaenoriaeth i hyfforddi a datblygu staff a’u bod newydd wedi ennill safon aur Buddsoddwyr mewn Pobl.

Ychwanegodd bod y busnes yn llwyddo oherwydd bod ei staff galluog a medrus yn darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid.

Mae ceir a limos moethus y Grŵp yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan enwogion fel Kate Moss, Alexandra Burke a chast The Only Way is Essex a chleientiaid corfforaethol mawr fel Endemol, Sony, ITV a Foxy Bingo.

Mae’r cwmni’n darparu trafnidiaeth ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau fel partïon pen-blwydd plant, nosweithiau ‘prom’, partïon ‘ieir’ a ‘cheirw’, priodasau, digwyddiadau arbennig a thripiau i gampau arbennig a pharciau thema.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Help i fusnesau

Tagiau

Busnes a'r economi 20 Ebrill 2012 Yr economi Arwain Cymru allan o'r dirwasgiad Programme for Government - Growth Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2012
Ll M M I G S S
<< Ebr   Meh >>
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i