Mae PRV Engineering, sydd wedi’i leoli yn New Inn, wedi gweld twf o 23% am ddwy flynedd yn olynol, gyda throsiant gwerthu’n codi o £2.4 miliwn yn 2009 i £3.7 miliwn yn 2011.
Mae’r cwmni’n buddsoddi £780,000 ei hun ac yn derbyn cymorth ariannol o £265,000 o’r Gronfa Twf Economaidd gan Lywodraeth Cymru i ehangu’r safle ac i brynu peiriannau ac offer soffistigedig iawn.
Bydd y buddsoddiad yn hybu mwy o weithgynhyrchu, yn galluogi’r cwmni i ymgymryd ag ystod gwaith ehangach, ac yn creu 15 swydd ddiogel gan gynnwys dwy brentisiaeth newydd. Daw hyn â chyfanswm y gweithwyr i fwy na phumdeg.
Mae’r cwmni’n cynnig gwasanaeth peiriannu a saernïo i bron bob sector diwydiant gan gynnwys y sectorau Bwyd, Prosesu Cemegau, Rheilffordd, Awyrofod, Partiau Ceir, Fferyllol, Amddiffyn ac Adeiladu. Maen nhw’n allforio 25% o’u cynnyrch i’r Dwyrain Canol.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Simon Jones fod ehangu’n hanfodol er mwyn cyflenwi’r archebion newydd.
"Rydyn ni’n ffodus iawn ein bod ni wedi gweld twf aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae llawer o gontractau ar ddod yr haf hwn. Mae ehangu’n hanfodol i sicrhau ein bod yn gallu cynhyrchu mwy, gwneud y gorau o’n cyfleoedd busnes a denu cwsmeriaid newydd.
"Wrth ehangu, byddwn yn dod yn fwy cystadleuol ac yn gallu cynnig gwasanaeth gwell i’n cwsmeriaid trwy fuddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf.
"Mae buddsoddiad sylweddol y Gronfa Twf Economaidd yn golygu y gallwn ehangu ein safle yn syth."
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart mai amcan y Gronfa yw darparu cyllid yn gyflym er mwyn galluogi busnesau i wneud buddsoddiadau cyfalaf i gefnogi twf:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo’r cyllid hwn i alluogi cwmnïau llwyddiannus fel PRV Engineering i wneud y gorau o’u cyfleoedd busnes ac rwy’n falch ein bod yn helpu’r cwmni hwn i ehangu."
Mae PRV yn cynnig ystod eang o wasanaethau a chynnyrch; o gyflawni contractau untro pwrpasol, i gynhyrchu llwythi mawrion a phrototeipio cyflym. Mae gan y cwmni bolisi i brynu nwyddau lleol a bydd y buddsoddiad yn rhoi hwb go iawn i gadwyn gyflenwi’r cwmni.











