Mae’r dystiolaeth, gan Brif Economydd Llywodraeth Cymru, yn dangos bod dadleuon Llywodraeth y DU yn wallus ac nad ydynt yn rhoi’r darlun cyflawn o bell ffordd.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt:
"Mae’r dystiolaeth yr ydym yn ei chyhoeddi yn dangos bod cyfiawnhad i’r gwrthwynebiad eang i gyflogau sector cyhoeddus rhanbarthol. Mae dadl y Trysorlys yn llawn datganiadau nad ydynt yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn.
"Yn groes i’r hyn y mae’r Trysorlys yn ei ddweud, nid oes achos cadarn dros feddwl bod y bwlch rhwng cyflogau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yn fwy yng Nghymru na mewn rhannau eraill o’r DU. Ni allwn, ychwaith, weld unrhyw dystiolaeth fod cyflogau sector cyhoeddus ‘anghymesur’ wedi bod yn effeithio’n andwyol ar gyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru.
"Yn wir, ers datganoli a than y dirwasgiad diweddar, mae Cymru wedi bod yn perfformio’n well na’r DU o ran y twf yn nifer y swyddi yn y sector preifat - mae hyn yn mynd yn gwbl groes i farn y Trysorlys.
"Mae hefyd yn glir bod sawl ffactor pwysig wedi’u hanwybyddu yn nadansoddiad y Trysorlys ac, o ychwanegu’r rhain, nid oes tystiolaeth glir bod gwahaniaeth yng nghyfraddau cyflogau ar draws y sector cyhoeddus cyfan.
"Yn wir, os oes gwahaniaeth yng nghyfraddau cyflog y sector cyhoeddus, ymysg y gweithwyr sydd ar gyflogau isel y mae hynny, a menywod ar gyflogau isel yn arbennig. Ni fyddaf yn ymddiheuro am y camau yr ydym wedi eu cymryd yng Nghymru i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Byddai’n gwbl annheg targedu’r grwpiau hyn o weithwyr sector cyhoeddus drwy leihau neu rewi eu cyflogau.
"Byddai ymdrechion Llywodraeth y DU i beri toriadau i gyflogau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn niweidiol iawn yn yr amgylchiadau presennol. Bydd unrhyw leihad o ran cyflogau yn arwain at lefelau is o wario ac, o ganlyniad, mae’n debygol iawn o gael effaith ar economi Cymru gan arwain at golli swyddi.
"Byddai polisi o dâl marchnad leol neu ranbarthol yn y sector cyhoeddus yn niweidiol yn economaidd ac yn peri rhwyg gymdeithasol yng Nghymru. Byddai gorfodi cyflogau is ar ein cymunedau difreintiedig, yn ystod cyfnod o straen economaidd a chynnydd yn y bwlch rhwng cyflogau menywod a dynion, yn wael i Gymru ac yn niweidiol i’r DU gyfan.
"Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn edrych ar ein tystiolaeth ac na fyddant yn parhau i ddilyn y trywydd hwn."











