Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

£60 miliwn o hwb cyfalaf i awdurdodau lleol diolch i un o fentrau Llywodraeth Cymru

Bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn cael hwb o £60 miliwn i’w gwariant cyfalaf eleni diolch i’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol sydd gan Lywodraeth Cymru.
Dydd Llun 14 Mai 2012

Dyrannwyd £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ledled Cymru fel y gyfran gyntaf o’r Fenter Benthyca dros gyfnod o dair blynedd. Bydd y gefnogaeth newydd hon yn fodd i gynghorau fynd i’r afael â’r pwysau ar gyllidebau cynnal a chadw’r ffyrdd, ac i roi hwb i fuddsoddi mewn cynlluniau lleol i wella priffyrdd.

Yn ystod ymweliad â chynllun adnewyddu troetffordd yng Nghasnewydd, gwelodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, sut y mae’r Fenter Benthyca wedi cynorthwyo Cyngor Casnewydd i wneud gwelliannau.

Dywedodd Jane Hutt:

"Gwyddom fod pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol ledled Cymru, a dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno’r Fenter Benthyca. Rydyn ni eisiau helpu Cynghorau i fynd i’r afael â phwysau ar refeniw, a’u gweld yn gwneud buddsoddiad newydd ac angenrheidiol yn ein priffyrdd.  

"Trwy ddarparu £4 miliwn ym mlwyddyn gyntaf y cynllun, bydd awdurdodau lleol yn cael hwb o £60 miliwn i’w gwariant cyfalaf eleni, gan arwain at welliannau ar unwaith yn ein ffyrdd a’n priffyrdd. Mewn gwirionedd, heb y cydweithio effeithiol hwn, ni fyddai modd fforddio’r buddsoddiad.

"Bydd datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o ariannu, megis y Fenter Benthyca, yn rhan bwysig o’r Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru ar gyfer twf a swyddi a fydd yn cael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf. Rydyn ni’n parhau i fod yn llywodraeth sydd wedi ymrwymo i ddarparu seilwaith a chreu swyddi, ac rydyn ni eisiau manteisio ar bob cyfle cost-effeithiol i gynyddu’r buddsoddiad cyfalaf, er gwaethaf y toriadau llym yn ein cyllideb, a hynny ymhob rhan o Gymru."

Ychwanegodd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyllid:

"Diolch i gydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol, rydyn ni’n gweld cynnydd sylweddol yng ngallu awdurdodau lleol i ariannu gwelliannau mawr i’n priffyrdd.  

"Bydd yr arian yma yn gymorth iddynt wella cyflwr ein ffyrdd, lleihau amser teithio a gwella diogelwch i yrwyr a beicwyr.

"Bydd yr arian hefyd yn gymorth i’r economi leol ymhob rhan o Gymru, trwy greu swyddi a phrentisiaethau ar gyfer pobl leol, yn ogystal â darparu cyfle i fusnesau lleol fod yn rhan o’r gadwyn gyflenwi."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Busnes a'r economi 14 Mai 2012 Yr economi Arwain Cymru allan o'r dirwasgiad Programme for Government - Growth Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i