Bydd Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru i Hybu Twf a Swyddi – sef un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu – yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £3.5bn mewn prosiectau cyfalaf dros gyfnod yr Adolygiad hwn o Wariant, a thua £15bn dros y degawd nesaf.
Ar ôl ymweld â datblygiad tai newydd yng Nghaerdydd gan Gymdeithas Tai Cadwyn, dywedodd y Gweinidog y byddai’r Cynllun yn canolbwyntio ar gynlluniau sy’n bwysig yn genedlaethol, megis buddsoddi mewn tai, ac y byddai’n dangos dulliau ariannu newydd ac arloesol.
Dywedodd Jane Hut:
"Rydyn ni’n parhau’n Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i ddarparu seilwaith a chreu swyddi, ac er gwaethaf y toriadau llym yn ein cyllideb, rydym eisiau manteisio ar bob cyfle cost-effeithiol i gynyddu’r buddsoddiad cyfalaf ledled Cymru.
"Bydd y Cynllun yn cynnwys rhestr o brosiectau cyfalaf sydd wedi eu cymeradwyo am y tair blynedd nesaf, ynghyd ag arwydd o’n blaenoriaethau cyfalaf am y deng mlynedd nesaf. Dyma’r tro cyntaf inni gyhoeddi amlinelliad mor glir o’n blaenoriaethau cyfalaf strategol.
"Mae tai yn un o’n prif flaenoriaethau mewn perthynas â’r seilwaith. Dyna pam y byddaf, yn nes ymlaen heddiw, yn cyhoeddi rhagor o adnoddau ar gyfer ehangu ein menter eiddo gwag; cyflwyno Bond Tai Cymru; ymestyn y Bartneriaeth Tai Cymru; a datblygu cynllun gwarant morgais ar gyfer Cymru."
Bydd cyhoeddi’r Cynllun yn galluogi’r sector preifat i sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau – gyda digon o sgiliau ac adnoddau – i gefnogi’r gwaith o gyflenwi’r seilwaith dros y blynyddoedd i ddod.
Ychwanegodd Jane Hutt:
"Wrth inni ddatblygu’r cynllun, rydyn ni wedi trafod yn eang gyda’r gymuned fusnes, partneriaid cymdeithasol, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, ac mae eu hadborth nhw wedi cyfrannu at liwio’r ddogfen. Roeddwn hefyd yn falch fod Gerry Holtham wedi cytuno i ychwanegu ei sgiliau niferus fel cynghorydd i’r Cynllun.
"Fel y mae’r data diweddar yn dangos, mae’r DU bellach wedi llithro’n ôl i ddirwasgiad. Felly, mae’n bwysicach fyth fod y buddsoddiad cyhoeddus mewn cyfalaf a seilwaith yma yng Nghymru yn parhau. Bydd ein Cynllun yn dangos mewn ffordd wirioneddol a diriaethol sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu economi Cymru i dyfu."











