Bydd y gynhadledd Cyfleoedd Gwirioneddol sy’n cael ei chynnal yn y Future Inn, Bae Caerdydd, yn dathlu llwyddiant y prosiect £15m Trawsnewid i Gyflogaeth AAA Rhanbarthol sy’n cefnogi pobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig, gan eu helpu nhw a’u gofalwyr i adeiladu dyfodol mwy llewyrchus.
Mae’r prosiect yn targedu’r rheini sydd ag anghenion difrifol a chymhleth, gan fynd i’r afael â’r bwlch mewn cymorth i bobl ifanc 14-19 oed sy’n trawsnewid o addysg llawn amser i fod yn oedolion a chael gwaith.
Cadeirydd y gynhadledd fydd Tomas Roberts, person ifanc sydd wedi elwa ar y prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Ymysg y rheini sy’n cymryd rhan mae pobl ifanc, gofalwyr a staff prosiect a fydd yn rhannu’u profiadau a’u llwyddiannau drwy gyflwyniadau. Hefyd bydd stondinau arddangos yn ystod ‘marchnad’ dros ginio er mwyn trafod ymhellach effaith y prosiect ar eu bywydau.
Dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ochr yn ochr ag awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gâr, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen, caiff y prosiect gymorth o £8.8m gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Wrth annerch y gynhadledd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies AC:
"Bydd cymryd mwy o ran mewn dysgu, gwirfoddoli a chyflogaeth yn helpu pobl ifanc, a’r bobl eraill yn eu bywydau, i fyw bywydau mwy cyflawn, ac yn eu galluogi hefyd i chwarae rôl werthfawr yn ein cymunedau. Rwy’n falch iawn bod cyllid yr UE yn helpu i gynnig manteision cymdeithasol ac economaidd pellach i bobl ifanc yn y rhanbarth."
Bydd Dr Steve Beyer, gwerthuswr allanol y prosiect, hefyd yn annerch y gynhadledd i roi adborth ar y canfyddiadau hyd yn hyn, gan gynnwys canlyniadau cynnar sy’n dangos effaith gadarnhaol y prosiect unigryw ar y rheini sy’n cymryd rhan ynddo. Bydd Chris Burdett o Lywodraeth Cymru hefyd yn siarad am Ddiwygio Statudol.
Mae’r prosiect yn cydweithio gydag ystod o gyrff statudol a gwirfoddol i roi cymorth unigol wedi’i deilwra i helpu pobl ifanc i gael cyfleoedd i gymdeithasu a dysgu, a byw bywydau mwy annibynnol. Mae hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr ym mhob ardal i godi ymwybyddiaeth, cynnig profiad gwaith a chynnig cyflogaeth â thâl.
Dywedodd Rheolwr y Prosiect Angela Kenvyn:
"Nod y gynhadledd hon yw dathlu llwyddiannau pobl ifanc a’u gofalwyr, gan ddangos y gwahaniaeth sy’n bosibl i’w bywydau drwy gydweithio gan asiantaethau, canolbwyntio ar y person a chymorth priodol. Rydyn ni’n canolbwyntio ar oresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl ifanc ag anghenion difrifol a chymhleth rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd a bod yn fwy annibynnol."











