Sefydlwyd y grŵp o arbenigwyr gan y Gweinidog Busnes yr hydref diwethaf. O dan Gadeiryddiaeth y Dr Elizabeth Haywood eu gwaith oedd ystyried a fyddai dinas-ranbarthau’n debygol o greu mwy o swyddi a ffyniant na’r strategaethau datblygu economaidd presennol.
Mae’r adroddiad ar y dinas-ranbarthau’n cynnwys 22 o argymhellion allweddol, gan gynnwys dynodi dinas-ranbarthau yn Ne-ddwyrain Cymru a Bae Abertawe ac atgyfnerthu Cynghrair Merswy Dyfrdwy yn y Gogledd-ddwyrain.
Wrth ddiolch i’r grŵp am eu gwaith trylwyr, dywedodd Mrs Hart ei bod yn hyderus y byddai’r adroddiad yn dylanwadu’n sylweddol ar bolisïau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Dywedodd:
"Yn yr adroddiad, mae ‘na dystiolaeth sy’n dangos ein bod yn wynebu’r twf trefol mwyaf yn hanes y byd. Yn 2008 aeth cyfanswm poblogaeth drefol y byd yn uwch na 50% am y tro cyntaf erioed, ac mae’r duedd honno’n cyflymu.
"Nid yw ein dinasoedd ni yng Nghymru yn fawr iawn o gymharu â gweddill y DU a thu hwnt, ac mae pobl wedi arfer meddwl bod hynny’n anfantais. Ond mae’r adroddiad hwn yn symud oddi wrth y pwyslais a fu ar y prifddinasoedd masnach mawr dros y degawdau diwethaf ac yn cyfeirio at y dystiolaeth ryngwladol ddiweddaraf ei bod yn well canolbwyntio ar ddinasoedd canolig eu maint a’r ardaloedd o’u hamgylch er mwyn sicrhau tegwch, twf ac effeithlonrwydd.
"Nid dinas-ranbarthau yw’r unig opsiwn rwy’n edrych arno o ran datblygu economaidd gofodol. Fy mlaenoriaeth yw teilwra’r modd yr ydym yn cefnogi swyddi a thwf yn unol â’r gwahanol amgylchiadau economaidd yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at roi gwybod i’r aelodau am waith Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys yr wythnos nesaf.
"Serch hynny, allwn ni ddim gwadu pwysigrwydd ein dinasoedd – mae’r boblogaeth drefol yn cynyddu ledled y byd ac nid yw Cymru’n eithriad. Os byddaf yn gweld cyfle i fanteisio ar hynny er mwyn hyrwyddo swyddi a thwf yng Nghymru, dyna a wnaf."
Dywedodd Dr Elizabeth Haywood:
"Er nad yw seilio polisi economaidd ar ddinas-ranbarthau yn ateb i bob problem, rwy’n credu ei fod yn cynnig ffordd allan o’r dirwasgiad.
"Gall ffocws ar ddinas-ranbarthau helpu i greu newid sylweddol – byddai’n gwella’r system gynllunio a’r cysylltiadau trafnidiaeth, yn sicrhau bod gennym y sgiliau cyfatebol i’r gwaith ac yn denu rhagor o fuddsoddi.
"Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion. Yn bennaf, rydym yn argymell y dylid dynodi dau ddinas-ranbarth yn y De er mwyn hybu ffyniant yr economi a datblygu cynaliadwy.
"Nid oes digon o dystiolaeth bod màs critigol y boblogaeth yn gallu cynnal dinas-ranbarth yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Er cysylltiadau economaidd traws ffin , nid yw’n ddigon o faint ac mae maint yn bwysig. Ond byddwn yn gwneud argymhellion penodol ac ymarferol i gryfhau’r cydweithredu ar draws y ffin yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.
"Os nad ydym yn cymryd mantais o’r màs critigol mae ein dinas-ranbarthau’n cynnig, neu’n rhyddhau eu medr arloesol a cynhyrchiol, bydd ein rhagolygon domestig yn lleihau a buddsoddwyr allanol yn colli diddordeb."
Ychwanegodd Dr Haywood na fydd y dinas-ranbarthau’n llwyddo heb bartneriaid ewyllysgar sy’n gallu cytuno ar weledigaeth ac amcanion hirdymor ac sy’n barod i gyfuno cyllid ar gyfer prosiectau sydd o fudd i’r dinas-ranbarth cyfan.
Dyma aelodau Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Dinas-ranbarthau:
- Andrew Carter, y Ganolfan Ddinasoedd
- Jon House, Cyngor Sir Caerdydd
- Yr Athro Kevin Morgan, Prifysgol Caerdydd
- Steve Penny, JCP Solicitors
- Jonathan Price, Llywodraeth Cymru
- Dr Martin Rhisiart, Prifysgol Morgannwg
- Yr Athro Michael Scott, Prifysgol Glyndŵr











