Caiff buddsoddiad gwerth £500,000 gan KK Fine Foods ar ei safle yng Nglannau Dyfrdwy ei ategu gan fuddsoddiad o £163,000 gan Gronfa Twf Economaidd Cymru. Bydd pump ar hugain o swyddi newydd yn cael eu creu.
Bydd y cyllid yn galluogi KK Fine Foods i gynhyrchu 10 miliwn yn fwy o brydau parod bob blwyddyn, gan gynyddu’r trosiant o £15m i £25m, a chynyddu nifer y staff i bron i 200.
Caiff llinell gynhyrchu newydd ei gosod fel rhan o’r gwaith ehangu a bydd capasiti ychwanegol ar gyfer rhewi bwydydd ar ei safle 10,000 troedfedd sgwâr ym Mharth Menter Glannau Dyfrdwy.
Dywedodd y Cadeirydd Dr Graham Jackson fod y cwmni’n gweld galw cynyddol a chyson am eu cynnyrch a’u bod yn rhagweld y bydd eu trosiant yn cynyddu 10% bob blwyddyn dros y tair neu’r pedair blynedd nesaf.
"Mae’r ehangu yma’n hanfodol er mwyn bodloni’r targedau hyn a diwallu anghenion ein rhestr gynyddol o gleientiaid. Eto i gyd, ni fyddai wedi body n bosibl i ni fuddsoddi’r arian yma heb gymorth gan Lywodraeth Cymru gan fod y banciau bellach mor gyndyn o fenthyca arian."
"Rydym eisoes wedi cyflogi pymtheg aelod newydd o staff o ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect hwn a’r nod yw sicrhau y bydd y llinell gynhyrchu newydd ar waith erbyn mis Hydref."
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart fod y Gronfa Twf Economaidd yn cynorthwyo busnesau ar draws pob sector i ehangu a chreu swyddi:
"Mae KK Fine Foods yn gyflogwr rhanbarthol pwysig iawn a bydd y buddsoddiad hwn yn creu swyddi newydd a hefyd yn rhoi hwb i’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru. Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn eu helpu i ehangu a buddsoddi."
Caiff y cwmni ei ystyried yn llwyddiant o fewn y byd gweithgynhyrchu bwyd yng Nghymru gan ei fod wedi cynyddu ei drosiant bob blwyddyn, ers 25 o flynyddoedd.
Sefydlwyd y busnes teulu gan y Prif Weithredwr Leyla Edwards ym 1987. Dechreuodd gynhyrchu prydau bwyd llysieuol ar gyfer tafarnau a chlybiau lleol o’i chegin.
Mae’r cwmni bellach yn cynnig dewis helaeth o 390 o wahanol brydau parod yn cynnwys cig, pysgod, pasta a hefyd brydau heb gig ar gyfer y sectorau gwasanaethau bwyd, hamdden, bragdai a chyfleustra ar draws y DU.
Mae KK Fine Foods yn buddsoddi’n helaeth mewn datblygu dewisiadau newydd. Mae’n cyflogi pum cogydd datblygu yn ei Ganolfan Arloesi ac yn cyflwyno trigain o brydau newydd ddwywaith y flwyddyn. Caiff pwyslais ei roi ar fwyd o safon uchel, gan ddefnyddio cynhwysion lleol lle y bo’n bosibl.
Gall gynnig prydau nad ydynt yn cynnwys glwten a lactos a hefyd brydau plant sy’n cynnwys lefelau isel o halen, alergenau a braster er mwyn hybu arferion bwyta mwy iach a mwy maethlon.











