Cafodd y grŵp annibynnol, a benodwyd yn gynharach eleni gan Mrs Hart, eu gofyn i ddatblygu cynigion arloesol gyflwynwyd gan Gyngor Sir Powys ar gyfer Ardaloedd Twf Lleol gan archwilio’r materion penodol sy’n effeithio ar drefi marchnad allweddol Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd.
Mae’r adroddiad yn gwneud dau argymhelliad cyffredinol sy’n cael eu cefnogi gan 38 o argymhellion dilynol perthnasol manylach.
Argymhellion allweddol:
- Bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen a’r cynigion ar gyfer Ardaloedd Twf Lleol er mwyn annog a chefnogi swyddi a thwf ym Mhowys.
- Caiff cefnogaeth ei roi i ddatblygiad mentrau busnes – gan gynnwys penodi eiriolwyr – yn y tair tref, er mwyn sefydlu cynlluniau gweithredu, gan gydweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a phartneriaid eraill.
Ar gyfer y tair tref yn benodol, mae’r adroddiad yn argymell:
- Cefnogi ac ariannu sefydlu menter fusnes fydd yn datblygu swyddogaeth canol tref y Drenewydd fel canolfan wasanaethu.
- Cefnogi ac ariannu sefydlu menter fusnes fydd yn datblygu ymhellach swyddogaeth Llandrindod fel canolfan gynadleddau a digwyddiadau, a’i swyddogaeth fel canolfan twristiaeth treftadaeth
- Cefnogi ac ariannu sefydlu menter fusnes fydd yn datblygu’n llawnach swyddogaeth Aberhonddu fel canolfan twristiaeth, a’i swyddogaeth fel lleoliad siopa o chwaeth.
Wrth ddiolch i’r Grŵp am eu gwaith, gadeiriwyd gan Justin Baird-Murray, perchennog a rheolwr gyfarwyddwr Gwesty’r Metropole yn Llandrindod, dywedodd Mrs Hart:
"Mae’r adroddiad hwn yn rhoi tipyn i ni gnoi cil arno wrth wynebu’r heriau sy’n bodoli mewn ardaloedd gwledig a threfi marchnad Powys, ac yn wir ledled y gweddill o Gymru. Rwy’n dymuno ymgynghori’n ehangach ar yr argymhellion gan ystyried yr hyn a ganfuwyd yn ystod toriad yr haf a byddaf yn croesawu unrhyw sylwadau pellach ar y casgliadau."
Dywedodd Justin Baird Murray:
"Mae’r Grŵp wedi dod i’r casgliad bod gan y cysyniad o Ardaloedd Twf Lleol le teilwng mewn sir wledig fel Powys. Dylent ganolbwyntio ar ganolfannau gwasanaethu a phoblogaeth allweddol er mwyn creu swyddi a thwf fydd yn elwa holl ardaloedd y sir.
"Derbyniodd y grŵp dystiolaeth o gyfran eang o’r gymuned fusnes gan ddod i’r casgliad bod peth brys i weithredu er mwyn ateb y materion y mae trefi a busnesau Powys yn eu hwynebu. Mae’r Grŵp wedi canolbwyntio ar weithgareddau y gellir eu dwyn ymlaen o fewn y tymor byr i’r tymor hir er mwyn cael yr effaith fwyaf ar y sir."
Aelodau’r grŵp yw:
- Justin Baird-Murray - (Cadeirydd y Grŵp)
- Janet Jones – Ffederasiwn Busnesau Bach
- Hannah Barrett – Cadeirydd Grŵp Gweithgynhyrchu’r Canolbarth
- James Gibson-Watt – dyn busnes lleol a siopwr
- John Gallagher – Control Techniques Ltd
- Wynne Jones – dyn busnes ac aelod o Gyngor Sir Powys
- Sue Balsom - aelod o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ficrofusnesau gyda swyddogaeth ymgynghorol o ran gwaith y Grŵp Ardaloedd Twf Lleol











