Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu manteisio ar gyfleoedd busnes drwy leoli ei hymgyrch marchnata yng nghanol Ardaloedd y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Bydd yn defnyddio mannau hysbysebu mewn gorsafoedd rheilffordd a gorsafoedd tanddaearyddol sydd gerllaw Parc y Gemau Olympaidd i hybu’r saith Ardal Fenter newydd sydd wedi’u sefydlu ar draws Cymru.
Bydd yr ymgyrch, sy’n dechrau heddiw (Dydd Llun 23 Gorffennaf), yn parhau am bedair wythnos a bydd yn targedu cwmnïau sy’n dymuno ehangu a thyfu’n gyflym a’r neges fydd - ‘When it comes to business, we’re in the Zone’.
Dywedodd y Gweinidog Busnes a Menter, Edwina Hart:
“Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau'r manteision economaidd a’r manteision masnachol mwyaf posibl i Gymru. Bydd yr ymgyrch hwn yn ffordd gost effeithiol iawn o hybu Cymru mewn gwahanol fannau strategol o amgylch lleoliadau’r Gemau Olympaidd a chodi ymwybyddiaeth o’r hyn y gall Cymru ei gynnig i fusnesau.
“Bydd yn ategu’r gweithgareddau eraill y byddwn yn ymgymryd â hwy mewn partneriaeth â Masnach a Buddsoddi y DU (UKTI) i hybu Cymru fel lleoliad busnes o’r radd flaenaf.”
Bydd y 29 lleoliad yn cynnwys gorsaf St James Park, sydd gerllaw digwyddiadau'r Uwchgynhadledd Fusnes Fyd Eang a gynhelir yn Llysgenhadaeth Fusnes Prydain yn Lancaster House. Bydd y gyfres hon o ddigwyddiadau yn canolbwyntio ar wahanol sectorau twf uchel ar bob diwrnod o’r Gemau Olympaidd a rhagwelir y bydd yn denu dros 3,500 o gwmnïau o’r DU.
Bydd posteri hefyd yn cael eu harddangos mewn gwahanol orsafoedd gan gynnwys Gorsaf Danddaearol Stratford, Rheilffordd Ysgafn Dociau Stratford a Pudding Mill Lane, Gorsaf Danddaearol West Ham a hefyd Gorsafoedd Greenwich, Cutty Sark, San Steffan a Hyde Park Corner.
Bydd gorsafoedd rheilffordd rhanbarthol mewn dinasoedd eraill sy’n cynnal digwyddiadau’r Gemau Olympaidd hefyd yn rhan o’r pecyn, gan gynnwys Rheilffordd Canol Caerdydd a Rheilffordd Newcastle.











