Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyllid gan Lywodraeth Cymru i greu 70 o brentisiaid newydd yng Ngogledd-orllewin Cymru

Cyhoeddodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart heddiw bod Llywodraeth Cymru’n rhoi cyllid o bron i £900,000 i greu 70 o brentisiaethau newydd mewn peirianneg ac adeiladu ledled y gogledd-orllewin.
Dydd Mercher 15 Awst 2012

Bydd y cyllid o £896,000 yn cefnogi asiantaeth gyflogi prentisiaid Grŵp Llandrillo Menai. Enw’r asiantaeth yw Cwmni Prentis Menai, a’i nod yw gwella cyfleoedd cyflogaeth addas ar gyfer pobl ifanc sgilgar ledled y sector ynni adnewyddadwy.

Caiff y prentisiaid newydd – 40 mewn peirianneg a 30 mewn adeiladu – eu cyflogi gan yr asiantaeth sydd wedi ei lleoli yng Ngholeg Menai a’u rhoi i weithio gyda chyflogwyr yr ardal.

Byddant yn ymuno â 23 o brentisiaid a recriwtiwyd gan yr asiantaeth yn y flwyddyn academaidd 2011/2012.

Dywedodd Mrs Hart:

"Mae yna nifer o fuddsoddiadau sylweddol mewn ynni adnewyddadwy wedi dechrau yng ngogledd Cymru yn ogystal â nifer o brosiectau posib ar y gweill – gan gynnwys gorsaf niwclear newydd yn y Wylfa efallai – sy’n cynnig ystod o gyfleoedd gwaith newydd.

"Mae’n hanfodol bod gennym bobl gyda’r sgiliau iawn i gymryd mantais ar y cyfleoedd yma fel y maent yn codi ac mae Grŵp Llandrillo Menai yn rhoi cyfle go iawn i bobl ifanc gael y cymwysterau angenrheidiol i fynd am y swyddi yma.

"Mae ymyriadau Llywodraeth Cymru wedi eu targedu’n uniongyrchol at y bobl a llefydd penodol er mwyn creu swyddi a helpu i daclo tlodi. Rwy’n falch o weld bod gan y rhaglen brentisiaeth yma yn cael cefnogaeth lwyr awdurdodau lleol Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy ynghyd â’r sector breifat, gan gynnwys Horizon Nuclear Power."

Mae’r pecyn cefnogaeth gan yr Adran Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn ychwanegu at gyllid presennol rhaglenni prentisiaeth yr Adran Addysg a Sgiliau gan gynnwys Llwybrau at Brentisiaethau a Recriwtiaid Ifanc.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert:

"Mae prentisiaethau yn cefnogi dyfodol llewyrchus i unigolion, busnesau a’r gymuned ehangach a dyna pam rwyf wedi cytuno i gefnogi cynlluniau uchelgeisiol i gael asiantaeth brentisiaeth yn y gogledd.

"Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ymestyn ein rhaglen brentisiaeth yng Nghymru, i gefnogi pobl ifanc sy’n ceisio lansio eu gyrfaoedd. Dyna pam rwy’n benderfynol i wneud popeth yn fy ngallu i gynnig y sgiliau, yr hyfforddiant a’r cyfleoedd gorau i lwyddo. 

"Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos ein bod yn cymryd camau pendant i’w gwneud yn haws rhoi cyfle i brentisiaid. Gobeithio y bydd y dull newydd hwn yn annog mwy fyth o gyflogwyr i gymryd prentisiaid a sicrhau bod gan weithlu gogledd-orllewin Cymru y sgiliau rydym eu hangen i hybu’r economi."

Rhoddodd Dafydd Evans, Pennaeth Coleg Menai, groeso brwd i’r cyhoeddiad:

"Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn mewn prentisiaethau yn newyddion gwych i’r rhanbarth, ac yn benodol i bobl ifanc sy’n ceisio adeiladu gyrfa mewn diwydiannau allweddol fel ynni, peirianneg ac adeiladu. Bydd Coleg Menai yn gweithredu’n gyflym i recriwtio pobl ifanc all gymryd mantais yn y ddarpariaeth ehangach Cwmni Prentis Menai. Byddant hefyd yn cydweithio â chyflogwyr i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i gefnogi prentisiaethau."

Croesawodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Bryan Owen, y cadarnhad o’r cyllid a chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Pwysleisiodd:

"Mae hwn yn esiampl o arfer da o’r sector cyhoeddus yn cydweithio gyda’r sector preifat a Choleg Menai er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfle i ennill sgiliau sy’n hanfodol yn y sectorau ynni a sectorau eraill.

"Gobeithio y bydd y cyfleoedd prentisiaeth hyn yn tyfu dros y blynyddoedd nesaf wrth i ddatblygwyr a buddsoddwyr newydd symud i Ynys Môn – gan sicrhau bod ein pobl ifanc yn aros i gynnal yr economi, cenedlaethau’r dyfodol, ein cymunedau, iaith a diwylliant."

Dywedodd John Idris Jones, Rheolwr Rhaglen Ynys Ynni:

"Rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi Cwmni Prentis Menai. Mae hwn yn ychwanegu at gefnogaeth y cwmni prentis gan Horizon Nuclear Power, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd.

"Mae’n gyfle gwych i bobl ifanc yn Ynys Môn a gogledd-orllewin Cymru gael prentisiaethau a chymryd mantais o gyfleoedd gwaith yn y dyfodol yn y sectorau peirianneg ac adeiladu gyda datblygiadau fel adeilad newydd y Wylfa a thyrbinau gwynt ar y môr."

Cafodd y prentisiaid cyntaf eu recriwtio gan yr asiantaeth yn y flwyddyn academaidd 2011/2012 a bydd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn dod â’r cyfanswm o brentisiaid sydd ar y rhaglen tair blynedd i 93.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Y Sector Ynni a'r Amgylchedd Prentisiaethau yng Nghymru Y sector adeiladu

Tagiau

Busnes a'r economi 15 Awst 2012 Yr economi Arwain Cymru allan o'r dirwasgiad Programme for Government - Education Programme for Government - Growth Programme for Government - Tackling Poverty Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i