Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Siarad ar ran plant Cymru

Mae'r broses o benodi Comisiynydd Plant Cymru wedi dechrau, wrth i hysbysebion am eiriolwr newydd dros blant ymddangos yn y wasg genedlaethol.
Dydd Mercher 01 Awst 2007

Eiriolwr annibynnol dros blant a phobl ifanc yw'r Comisiynydd, a'i brif nod yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gael Comisiynydd Plant annibynnol yn 2000 – cam arloesol a ddilynwyd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon ac yn fwyaf diweddar gan Loegr.  Gwaetha'r modd, bu'n rhaid mynd ati i benodi Comisiynydd  Plant newydd yn sgil marwolaeth Peter Clarke ym mis Ionawr eleni.

Meddai'r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt:

Mae gan y Comisiynydd y rôl hollbwysig o ddiogelu hawliau a lles plant a phobl ifanc yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed.

Mae angen ymgeisydd o'r radd flaenaf arnom i fodloni gofynion cymhleth y swydd hon.  Rhaid iddo fod yn rhywun sy'n gallu gwrando ar blant, sefyll dros eu hawliau, mynegi eu barn a'u cyfleu'n effeithiol i bawb - gan gynnwys y llywodraeth.

Er mwyn sicrhau bod y person iawn yn cael ei benodi, bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn wynebu panel recriwtio o bobl ifanc yn ogystal â phanel ffurfiol wedi'i gadeirio gan y Gweinidog .  

Cynigir cyflog o £87,000 y flwyddyn ac mae'r contract am gyfnod o saith mlynedd na ellir ei adnewyddu.

Bwriad y Prif Weinidog yw penodi'r Comisiynydd newydd erbyn diwedd y flwyddyn gyda golwg ar sicrhau bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn dechrau ar ei swydd cyn gynted â phosibl yn 2008.

1 Awst 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Jane Hutt AC

Tagiau

Plant a phobl ifanc 01 Awst 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i