Dywedodd Jane Hutt:
Rwy'n croesawu'r arwyddion bod agweddau rhieni tuag at gosbi plant yn gorfforol yn newid, yn enwedig ymhlith rhieni ifanc.
Mae Llywodraethau olynol y Cynulliad wedi cymryd safiad cryf yn erbyn cosb gorfforol i blant a phobl ifanc, yn seiliedig ar ein cefnogaeth ar gyfer Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Fel y nodwyd yn glir yn ymateb Llywodraeth y Cynulliad i'r ymgynghoriad, rydym yn parhau i wrthwynebu cosb gorfforol. Ein polisi erioed yw hybu rhianta positif.
Y llynedd, buddsoddwyd £2.4 miliwn ychwanegol mewn gwasanaethau cefnogi teuluoedd gan Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc. O dan y Cynllun Gweithredu Rhianta, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi nodi cyfres o lyfrynnau a fydd yn cael eu dosbarthu drwy ymwelwyr iechyd ac ysgolion er mwyn helpu rhieni i reoli ymddygiad plant mewn ffordd bositif.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Rhaid i ni ganolbwyntio ar weithio gyda rhieni i hybu lles plant, a mynd ati i newid agweddau ac ymddygiadau sy'n esgusodi trais yn erbyn plant.
25 Hydref 2007











