Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Rhaid Delio â Phroblem Tlodi Plant

Mae cael gwared â gwarth a gwastraff tlodi ymhlith plant ar frig rhestr blaenoriaethau’r Dr Brian Gibbons, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
Dydd Mercher 17 Hydref 2007

Mewn araith allweddol i nodi Diwrnod Dileu Tlodi y Cenhedloedd Unedig, cadarnhaodd y Gweinidog ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i fynd i’r afael â thlodi plant a rhoi lle canolog i hynny ar ei agenda.

Cydnabu’r Gweinidog bod yr her o ddileu tlodi ymhlith plant yng Nghymru yn sylweddol a phwysleisiodd bod angen am waith partneriaeth cryf.  

“Mae gormod o deuluoedd yn dioddef o effeithiau tlodi, “ meddai, “ac mae llawer o’n dinasyddion yn methu â chwarae rhan lawn mewn cymdeithas oherwydd yr ystod o anfanteision a wynebir ganddynt.  Mae hyn yn dramgwydd i’n hymdeimlad o gyfiawnder cymdeithasol ac yn wastraff o sgiliau a thalentau ein pobl.    

“Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymrwymedig i wneud ei rhan i wella bywydau’r rhai hynny sy’n wynebu’r anfanteision mwyaf drwy greu polisïau i godi lefelau cyrhaeddiad addysgol, gwella iechyd a gwella’r rhagolygon o ran cael gwaith.

“Dengys tystiolaeth ein bod wedi cyflawni llawer eisoes.  Mae’r cyfraddau tlodi ymhlith plant yng Nghymru wedi dod i lawr o dan gyfartaledd Prydain am y tro cyntaf.  Ond nid ydym am orffwys ar ein rhwyfau – dengys yr ystadegau bod 28% o blant Cymru yn dal yn byw mewn cartrefi y mae eu hincwm yn is na 60 y cant o’r cyfartaledd.”
Amlinellodd y Gweinidog y polisïau a’r rhaglenni sydd eisoes ar waith i ddelio â thlodi ymhlith plant, ac amlygodd sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu ymdrechu mwy fyth yn hyn o beth.

“Mae rhaglenni fel Dechrau’n Deg, Cymorth, Rhagori, Cymunedau yn Gyntaf, brecwastau am ddim yn yr ysgol, ein grant gwisg ysgol a’n Strategaeth Gofal Plant genedlaethol oll yn cyfrannu at leihau tlodi ac anfantais.  Hefyd, mae nifer o ymrwymiadau newydd yn Cymru’n Un y byddwn yn mynd i’r afael â nhw dros gyfnod y Cynulliad hwn.

“Bwriadwn ddefnyddio ein pwerau newydd i ddiwygio’r gyfraith o ran plant agored i niwed yng Nghymru ac i gael y grym i’w gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddangos sut y maent wedi cyfrannu at ddileu tlodi ymhlith plant.

“Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno ychwanegiad i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i bob plentyn sy’n dechrau addysg lawn amser yng Nghymru ac, yn bwysicach fyth, byddwn yn rhoi mwy i blant mewn teuluoedd sydd ag incwm isel.  Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i gynyddu ein hymdrechion i helpu’r teuluoedd tlotaf.  Byddwn hefyd yn gwneud hyn drwy ddefnyddio i’r eithaf yr incwm y maent yn ei gael drwy ehangu’r gwasanaethau budd-daliadau a chyngor ar ddyledion, gwella addysg ariannol a sicrhau bod pob disgybl ysgol uwchradd yn medru cael mynediad at undeb credyd.”  

Hefyd, tynnodd y Gweinidog sylw at y rôl allweddol y bydd y panel o arbenigwyr y mae’n ei sefydlu yn ei chwarae o ran monitro cynnydd a chynghori Llywodraeth y Cynulliad ar y camau pellach sy’n angenrheidiol i gyrraedd y nod o ddileu tlodi ymhlith plant erbyn 2020.  

I gloi, dywedodd y Dr Gibbons bod ”Mynd i’r afael â thlodi ymhlith plant a sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i bobl Cymru wrth wraidd agenda’r drydedd Llywodraeth Cynulliad hon.  Er bod camau mawr wedi’u gwneud yn ddiweddar, rwyf yn sicr na ddylem laesu dwylo a bod angen i ni ymdrechu hyd yn oed fwy fyth.  Yr wyf yn hyderus y bydd gweithredu ein rhaglen lywodraethu Cymru’n Un yn ein helpu i gyflawni ein hamcanion o fynd i’r afael â thlodi ac anfantais ymhlith rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.”

17 Hydref 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Plant a phobl ifanc Cyfiawnder cymdeithasol

Tagiau

Plant a phobl ifanc 17 Hydref 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i