Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog yn penodi Huw Lewis AC yn gadeirydd grŵp tlodi plant

Heddiw (dydd Mercher, 26 Medi), cyhoeddodd Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, fod Huw Lewis AC wedi ei benodi’n gadeirydd grŵp newydd o arbenigwyr annibynnol ar dlodi plant.
Dydd Mercher 26 Medi 2007

Bydd y Grŵp Arbenigwyr ar Dargedau Tlodi Plant yn cyflwyno tystiolaeth ar sail cyngor arbenigol, yn herio ac yn cyflwyno adborth i Lywodraeth y Cynulliad ar yr hyn sy’n cael ei wneud i gyrraedd y targedau trawsbynciol ym maes tlodi plant.  Mae sefydlu’r grŵp yn un o ymrwymiadau ‘Cymru’n Un’.

Caiff yr adborth a geir gan y grŵp ei ddefnyddio i lunio polisi ac i ddatblygu ffyrdd ymarferol o  gyflawni’r targedau o haneru achosion o dlodi plant erbyn 2010 a chael gwared ar dlodi plant yn gyfan gwbl erbyn 2020.

Bydd aelodau’r grŵp ffocws yn galw ar arbenigedd ysgolheigion, awdurdodau lleol, elusennau a grwpiau cymunedol, yn ogystal ag arbenigedd cyrff eraill yn y sector cyhoeddus.  Bydd y penodiadau ar gyfer y grŵp hwn yn cael eu gwneud yn gynnar yn y gwanwyn 2008.

Yn siarad am y penodiad, dywedodd Brian Gibbons:

Rwy’n falch iawn bod Huw wedi cytuno i dderbyn y swydd.  Mae ganddo brofiad, arbenigedd ac ymrwymiad yn y maes hwn sy’n ei wneud yn gadeirydd delfrydol ar gyfer y grŵp.

Wrth dderbyn ei swydd, dywedodd Huw Lewis:

Rwyf wrth fy modd yn derbyn y gwahoddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fod yn Gadeirydd ar y Grŵp Arbenigwyr ar Dargedau Tlodi Plant.  Rwy’n parhau i fod yn argyhoeddedig mai hon fydd yr her fwyaf i wynebu’r Cynulliad yn ystod y pedair blynedd nesaf.

Mae yna rai yn San Steffan sy’n rhy barod i roi agenda tlodi plant i un ochr ac er bod trethi a budd-daliadau yn allweddol i ysgogi newid, gallai defnyddio miliynau o bunnoedd o gyllid y Cynulliad yn y dull cywir weddnewid bywyd miloedd o blant Cymru mewn cymunedau difreintiedig.  Mae’n gyfle y mae’n rhaid inni fanteisio arno.

Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chyfeillion o’r holl bleidiau a chyda llawer o arbenigwyr ym maes tlodi plant wrth ymchwilio i raglen fentrus a llawn dychymyg er mwyn ysgogi newid.

26 Medi 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Cyfiawnder cymdeithasol

Tagiau

Plant a phobl ifanc 26 Medi 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i