Wedi rhai ceisiadau brwdfrydig gan ysgolion, mae’r dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth wedi ei ymestyn i 17 Hydref 2008.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio dwy gystadleuaeth sydd wedi’u cynllunio i annog disgyblion i gydweithio ag athrawon, rhieni a ffrindiau i dynnu sylw at y broblem o fwlio mewn ysgolion yng Nghymru.
Gofynnir i ddisgyblion ysgolion cynradd ysgrifennu cerdd fer ar fwlio, a gofynnir i ysgolion uwchradd ddatblygu sgript ar gyfer bwletin newyddion ffug, a bwlio’n brif bwnc.
Meddai Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg:
Mae Cymru wedi cynhyrchu nifer o feirdd neilltuol dros y blynyddoedd, ac rwy’n gobeithio y bydd y gystadleuaeth farddoniaeth yn codi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n gysylltiedig â bwlio, ac y bydd yn ysbrydoli plant Cymru i roi cynnig arni. Rwy’n gobeithio y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cymryd mantais o Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, a’r dyddiad cau estynedig hwn, i dreulio ychydig amser yn ysgrifennu barddoniaeth ar gyfer yr Wythnos Gwrth-fwlio.
Yn anffodus, mae bwlio yn broblem mewn nifer o’n hysgolion. Trwy ddefnyddio yr Wythnos Gwrth-fwlio i dynnu sylw at y broblem, rydym yn annog ysgolion, athrawon a rhieni i gydweithio i drafod problemau yn hytrach na’u hanwybyddu, a chael gwared o fwlio unwaith ac am byth o’u hysgol.
Mae’r cystadlaethau yn agored i holl ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru. Am ragor o wybodaeth a phecynnau ymgeisio ewch i www.wales.gov.uk/respectingothers. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Hydref 2008.
8 Hydref 2008











