Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog yn mynychu cynhadledd i drafod heriau gofal maeth

Heddiw [dydd Gwener, 17 Hydref] ymunodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, â gofalwyr maeth, gweithwyr proffesiynol o’r sector, cynrychiolwyr elusennau a chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghynhadledd ‘Fostering Success’ yng Nghaerdydd.
Dydd Gwener 17 Hydref 2008

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn, a oedd ar agor i amrywiaeth o ymarferwyr, er mwyn trafod ymchwil i weithgareddau gofal maeth llwyddiannus, ac i ddathlu arfer da gan ofalwyr maeth.

Trefnwyd y gynhadledd gan y Rhwydwaith Maethu, ac fe anerchodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, y rhai a oedd yn bresennol. Galwodd y Gweinidog ar y rhwydwaith o weithwyr proffesiynol a gofalwyr i rannu eu profiadau, ac i gyfrannu at ddull cydweithredol o lunio polisïau yng Nghymru.

Meddai’r Gweinidog:

Y flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymgynghori ar strategaeth i ddiogelu plant sy’n agored i niwed, gan gynnwys plant sy’n gadael gofal. Ry’n ni’n cael pwerau ychwanegol gan San Steffan, sy’n golygu y bydd ein cyfreithiau’n unigryw i Gymru, ac yn caniatáu i ni lunio dull sydd wedi’i deilwra i’n hanghenion ni.

Dyna pam mae cyfraniadau pawb sy’n mynychu’r gynhadledd ‘Fostering Success' mor bwysig, er mwyn i ni allu cydweithio trwy gyfrwng profiadau a gwybodaeth a rennir i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt. Trwy gydweithio, gallwn ni wella’r ffordd y mae gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar anghenion y plentyn yn cael eu darparu. Bydd hyn yn rhoi pob cyfle iddynt gyflawni eu dyheadau, yn yr un modd a’u cyfoedion.

Mae ein Prosiect Gofal Cefnogol wedi bod mor llwyddiannus fel ein bod ni, fel llywodraeth, wedi addo rhoi mwy o gyllid i Rwydwaith Maethu Cymru i ymestyn y prosiect am flwyddyn arall tan fis Ebrill 2009. Mae eu gwaith o ran gweithredu’r prosiect, darparu hyfforddiant rheolaidd i ofalwyr maeth, ac ymgyrchu dros faterion gofal maeth, yn amhrisiadwy. Rwy’n diolch iddynt am eu hymroddiad diflino.

17 Hydref 2008

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Plant a phobl ifanc

Tagiau

Plant a phobl ifanc 17 Hydref 2008
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i