Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Lansio’r llinell gymorth genedlaethol gyntaf sy’n rhoi eiriolaeth a chyngor i blant a phobl ifanc

Fydd y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, yn lansio llinell gymorth genedlaethol newydd sbon i roi Eiriolaeth a Chyngor ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru, gyda chymorth cyflwynydd Radio 1 Aled Haydn Jones.
Dydd Gwener 14 Mai 2010
Erthygl
Trawsgrifiad fideo
 

Y llinell gymorth hon – o’r enw Meic – yw’r un gyntaf o’r fath i gael ei rhoi ar waith ar draws Cymru gyfan.

Rhoddwyd dros £450,000 o gyllid Llywodraeth y Cynulliad i’r llinell gymorth, a bydd yn rhoi help i blant a phobl ifanc gyda materion sy’n effeithio arnyn nhw, yn enwedig pan fyddant yn teimlo bod eu barn yn cael ei hanwybyddu neu ei diystyru.

Gall plant a phobl ifanc o dan 25 oed gysylltu â Meic drwy rif rhadffôn(080880 23456), testun di-dâl (84001) neu neges wib, saith niwrnod yr wythnos. Ar y dechrau, bydd Meic ar agor am 8 awr y dydd (12-8pm) cyn troi’n wasanaeth 24 awr maes o law.

Bydd y cynghorwyr yn darparu gwybodaeth i’r bobl ifanc, yn rhoi manylion ynghylch lle gallant droi am gymorth pellach, neu’n eu trosglwyddo i eiriolwr proffesiynol annibynnol. Mae’r eiriolwyr hyn wedi’u hyfforddi i helpu plant a phobl ifanc gael hyd i ffyrdd o gyfranogi a chael gwrandawiad ynghylch unrhyw benderfyniad sy’n effeithio arnynt. Gallant ymdrin â materion penodol pan fo’r plentyn neu berson ifanc yn anhapus â’r sefyllfa bresennol ac yn awyddus i gael cymorth a chefnogaeth ar gyfer dechrau, gorffen neu newid rhywbeth.


Bydd Meic yn ategu a chydweithio â gwasanaethau cynghori a llinellau cymorth eraill - megis Childline - sydd â swyddogaeth ddiogelu amlwg.

Cyn lansio Meic ym Mhrifysgol Glyndŵr, dywedodd Huw Lewis:

“Mae Meic yn gam pwysig ymlaen i eiriolaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydym yn arwain y ffordd yn hyn o beth, ond, yn fwy na hynny, rydym hefyd yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cefnogaeth i gael gwrandawiad teilwng i’w barn a’u safbwyntiau ynghylch y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.

“Am y tro cyntaf, bydd gan blant a phobl ifanc bwynt cyswllt sengl – dros y ffôn, ar neges testun, neu drwy neges wib – i gael help a chefnogaeth pan fo’u hangen arnynt.”

Mae Aled Haydn Jones, cyflwynydd rhaglen gynghori Radio 1, The Surgery a chynhyrchydd rhaglen radio foreol Chris Moyles, yn cefnogi llinell gymorth Meic.

Meddai:

“Mae plant a phobl ifanc yn wynebu amrywiaeth eang o faterion ac yn aml maent yn teimlo ei bod yn anodd cael rhywun i wrando arnynt. Cefais innau brofiad uniongyrchol o hynny wrth dyfu lan.

“Rwy’n hapus dros ben i gefnogi Meic oherwydd bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi llais a grym i blant Cymru, gan helpu i sicrhau eu bod yn cael profiadau positif mewn bywyd.”

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, fydd hefyd yn annerch y lansiad:

“Wrth feddwl am gael hyd i wybodaeth, bydd dau beth yn neidio i’r meddwl: lle mae cael hyd iddo ac a fyddwch yn ymddiried yn y ffynhonnell? Mae Meic yn ceisio datrys y ddau anhawster; mae’n darparu gwybodaeth ddibynadwy a chywir ac mae hefyd yn siop-un-stop i blant a phobl ifanc.

“Os bydd angen, gall Meic roi llais i blant a phobl ifanc hefyd, ac rwy’n croesawu unrhyw wasanaeth sy’n rhoi gwrandawiad i’w safbwyntiau a’u barn nhw. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r gwasanaeth hwn.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Delweddau

Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler yn lansio llinell gymorth Meic
 
Cyflwynydd Radio 1 Aled Haydn Jones yn ateb yr alwad gyntat at linell gymorth Meic
 
Cyflwynydd Radio 1 Aled Haydn Jones yn helpu lansio llinell gymorth Meic
 
Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, Aled Haydn Jones a phobl ifanc
 
Oriel delweddau

Dolenni

Plant a phobl ifanc

Gwefannau

Meic Comisiynydd Plant Cymru

Tagiau

Plant a phobl ifanc 14 Mai 2010 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i