Bydd yr ardaloedd Arloesi cyntaf yn cael eu harwain gan Wrecsam, fydd yn cydweithio â Sir y Fflint a Sir Ddinbych, a Rhondda Cynon Taf yn cydweithio â Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.
Cafodd yr ardaloedd hyn eu dewis i arwain y ffordd er mwyn dangos ffyrdd arloesol o weithio, ac enghreifftiau o arfer gorau yn eu hymdrechion i gefnogi teuluoedd.
Nod yr Arloeswyr yw arwain y ffordd i wella’r broses o ddarparu gwasanaethau i deuluoedd ledled Cymru, yn enwedig y rhai hynny sy’n byw mewn tlodi, fel a nodwyd yn Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Llywodraeth y Cynulliad. Mae Llywodraeth y Cynulliad am nodi’r ffyrdd gorau o weithio yn ddi-oed, ac am rannu’r wybodaeth ledled Cymru.
Rydym yn bwriadu cyhoeddi ardaloedd Arloesi eraill mewn amser, gyda’r nod o gael pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn gweithio yn y dull hwn.
Meddai’r Dirprwy Weinidog Plant:
“Yn ein Strategaeth Tlodi Plant, a lansiwyd gennyf i ymgynghori arni ym mis Mai, rhoddais fanylion fy mwriad clir i ddatblygu modelau newydd o weithio integredig i gynorthwyo’n well y teuluoedd â phlant sy’n byw mewn tlodi. Mae’r ardaloedd Arloesi hyn yn rhan fawr o’r ymrwymiad hwn.
“Codi plant allan o dlodi yw fy mlaenoriaeth, a dyna pam rwyf am edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o weithio â theuluoedd tra’n trin pobl fel unigolion. Nid yw un ateb i bawb yn ymarferol.
“Rwy’n gwybod bod y gwaith hwn yn heriol – nid yw’r sefyllfa ariannol bresennol yn helpu’r sefyllfa. Ond mae hynny’n fwy o reswm dros sicrhau bod ein buddsoddiad i helpu teuluoedd yn cael ei ddefnyddio yn y dull mwyaf economaidd, effeithlon ac effeithiol posib.”
Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sy’n bartneriaid yn yr ardaloedd Arloesi newydd i nodi gweithio ar y cyd ac arferion da effeithiol sy’n cwmpasu’r gwasanaethau a’r asiantaethau canlynol:
- Iechyd (gan gynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed)
- Addysg
- Gwasanaethau Ieuenctid
- Yr Heddlu
- Gyrfa Cymru
- Cymorth Cyflogaeth
- Cynghori ar ddyledion / cyngor ariannol
- Mentrau Datblygu Cymunedol
- Tai
- Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a Thimau Troseddau Ieuenctid
- Gwasanaethau Gwybodaeth gan gynnwys y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd











