Roedd y Dirprwy Weinidog yn ymweld â Chanolfan Blant Integredig y Cymoedd. Mae’r ganolfan yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i blant a theuluoedd ym Mlaenau Gwent, gan gynnwys gofal plant, gwasanaethau blynyddoedd cynnar, cymorth i deuluoedd, cyfleoedd hyfforddi a chwarae mynediad agored.
Meddai Huw Lewis:
“Mae Canolfannau Plant, megis Canolfan y Cymoedd, yn gyfraniad gwerthfawr i’n strategaeth i fynd i’r afael â thlodi plant.
“Mae’r ganolfan yn enghraifft ragorol o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gyfuno asiantaethau i gynnig amrywiol wasanaethau ac i wella cyfleoedd a lles teuluoedd.”
Dewiswyd Blaenau Gwent fel un o’r Ardaloedd Arloesi ar gyfer rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth y Cynulliad, ac mae’n edrych ar sut y gall gwasanaethau cydgysylltiedig leihau tlodi plant a gwella bywydau plant ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
“Yn ein Strategaeth Tlodi Plant, a lansiwyd gennyf ar gyfer ymgynghoriad ym mis Mai, rhoddais amlinelliad o’m bwriad clir i ddatblygu modelau newydd o weithio’n integredig i helpu mwy ar deuluoedd â phlant sy’n byw mewn tlodi. Mae Ardaloedd Arloesi Teuluoedd yn Gyntaf yn rhan fawr o’r ymrwymiad hwn. Fel Ardal Arloesi ar gyfer y rhaglen yn ne Cymru, mae Awdurdod Lleol Blaenau Gwent yn edrych eisoes ar sut y gellir rhoi hyn ar waith yn eu hardal, yn ogystal ag awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
“Dwi’n gwybod bod heriau i’r gwaith hwn, ond mae’n rhaid inni edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o weithio gyda teuluoedd fel y gallwn drawsnewid canlyniadau y bobl dlotaf.”











