Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Annog Plant a Phobl Ifanc i Dynnu Sylw at eu Cyflawniadau a'u Dathlu

Mae plant a phobl ifanc ledled Cymru yn cael eu hannog i hyrwyddo negeseuon cadarnhaol am eu gweithgareddau yn y cyfryngau er mwyn gwrthbwyso'r delweddau negyddol a welir ohonynt yn aml mewn cymdeithas.
Dydd Gwener 19 Tachwedd 2010
Merch ifanc yn ysgrifennu
Merch ifanc yn ysgrifennu

Heddiw (19eg Tachwedd 2010), lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllaw newydd ar y cyfryngau a chyfathrebu i'w helpu i gyfleu eu straeon yn fwy effeithiol a gwella canfyddiadau cymdeithas o'u cenhedlaeth.

Lansiwyd y canllaw, sef 'Tell it like it is', yn ystod digwyddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd lle daeth cannoedd o blant a phobl ifanc i ddathlu 21ain mlynedd ers sefydlu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC).

Gwella delwedd plant a phobl ifanc mewn cymdeithas ac yn y cyfryngau yw un o brif nodau Cynllun Gweithredu i Gymru 'Gwneud Pethau'n Iawn' Llywodraeth y Cynulliad, a luniwyd i gyflawni amcanion UNCRC.

Mae astudiaethau yn y DU gyfan wedi dangos yn gyson fod gan y mwyafrif o oedolion ganfyddiadau negyddol ac annheg o blant a phobl ifanc, gan gredu bod cyfradd llawer uwch ohonynt yn troseddu neu'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol nag sy'n gwneud hynny mewn gwirionedd.

Mewn un astudiaeth gan yr elusen, sef Catch 22, gor-amcangyfrifodd dwy ran o dair o oedolion nifer y bobl ifanc a oedd yn troseddu, ac roedd oedolion a holwyd yn yr Arolwg Troseddu Prydain diweddaraf yn credu bod pobl ifanc yn gyfrifol am hanner yr holl droseddau a gyflawnir. Mewn gwirionedd, dim ond 12% yw'r ffigur hwn.

Mae'r canlyniadau hyn yn cyfateb i'r farn a gasglwyd gan gynrychiolwyr Llywodraeth y Cynulliad o blith 400 o blant a phobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yng Nghymru yn Eisteddfod Genedlaethol eleni. Dywedodd dwy ran o dair o'r rhai a holwyd eu bod yn credu bod plant a phobl ifanc yn cael mwy o sylw negyddol na chadarnhaol. O'r rhai a fynegodd y farn hon, roedd 90% yn teimlo bod y ddelwedd negyddol hon yn dylanwadu ar y ffordd y cawsant eu trin gan oedolion.

Rhoddodd y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, anogaeth i blant a phobl ifanc wneud mwy i dynnu sylw at eu cyflawniadau a'u cyfraniadau cadarnhaol. Anogodd hwy i ddefnyddio'r canllaw newydd ar y cyfryngau a chyfathrebu a lansiwyd yn ystod digwyddiad dathlu UNCRC yn y Senedd heddiw, a oedd yn cynnwys arddangosfeydd, adloniant a gweithdai dysgu.

Dywedodd:

"Mae'r digwyddiad hwn heddiw yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau a llwyddiannau plant a phobl ifanc.  Rydym am i bawb wybod am y cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei wneud i'w cymunedau lleol ac rydym am eu cymeradwyo a rhoi iddynt y clod y maent yn ei haeddu. Mae digwyddiad heddiw a'r gweithgareddau sy'n rhan ohono yn rhan o gynllun i newid pethau a sicrhau delwedd onest, deg a chytbwys o blant a phobl ifanc."  

"Bydd y canllaw sy'n cael ei lansio heddiw yn helpu plant a phobl ifanc i gyfleu eu straeon yn eu geiriau eu hunain a'u rhannu ag eraill. Rwy'n gobeithio y bydd plant a phobl ifanc yn magu mwy o hyder i rannu eu llwyddiannau a'u cyflawniadau ac y caiff pawb ledled Cymru gyfle i fyfyrio ar y pethau cadarnhaol y mae plant a phobl ifanc yn eu gwneud."

Anogodd y Dirprwy Weinidog y plant a'r bobl ifanc yn y Senedd i ddefnyddio CLIC, y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i Bobl Ifanc, ac yn arbennig i gyfrannu cynnwys ar wefan CLIC.

Soniodd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, hefyd am y gwaith y mae ef a'i dîm yn ei wneud i wella dealltwriaeth y cyfryngau o faterion plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Dywedodd:  

"Y ffordd orau o fynd i'r afael ag agweddau cymdeithas tuag at blant a phobl ifanc yw cydweithio, ac rwy'n ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth y Cynulliad a phartneriaid allweddol eraill i wneud gwahaniaeth. Mae heddiw'n ddigwyddiad gwych oherwydd cawn ddathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc yn ogystal â'u galluogi i ddylanwadu ar yr agenda newyddion."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Hawliau plant a phobl ifanc

Tagiau

Plant a phobl ifanc 19 Tachwedd 2010 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i