Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwnewch gais am eich arian ychwanegol o dan y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant cyn iddi fod yn rhy hwyr

Heddiw, apeliodd Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant, ar rieni a gwarchodwyr i hawlio swm atodol Cronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru cyn y bydd yn rhy hwyr.
Dydd Llun 10 Ionawr 2011
Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant, gyda plant o Ysgol Gynradd Moorland.

Rhaid i rieni a gwarchodwyr plant a gafodd eu geni rhwng 31 Awst 2004 a’r 1 Medi 2005 gyflwyno eu ffurflenni cais ar gyfer y swm atodol o dan y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant erbyn 31 Ionawr.  

Mae pob plentyn cymwys yn gallu hawlio £50, a fydd yn cael ei dalu i mewn i’w cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, ac mae £50 ychwanegol ar gael i blant sy’n byw mewn teuluoedd incwm isel.

Dywedodd Huw Lewis:

“Mae gan rieni a gwarchodwyr plant cymwys hyd at 31 Ionawr i gyflwyno eu ffurflenni cais ar gyfer y swm atodol olaf hwn. Rwy’n eu hannog i lenwi’r ffurflen nawr a chyflwyno eu ceisiadau.

“Dw i am bwysleisio, er gwaethaf penderfyniad Llywodraeth y DU i ddirwyn y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i ben, y bydd plant yng Nghymru yn dal i allu manteisio ar Gronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru eleni. Felly, anfonwch eich ffurflenni cais i mewn.”

Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn helpu i annog pobl ifanc i gynilo, mae’n gwella llythrennedd arian, ac mae’n mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol. Mae hefyd yn rhoi sylfaen ariannol bwysig i bobl ifanc ar gyfer y dyfodol.  

Ychwanegodd Mr Lewis:

“Yn anffodus, y llynedd, penderfynodd Llywodraeth Glymblaid y DU ddirwyn y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i ben, ac mae hynny’n cael effaith ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweithio’n galed i geisio dod o hyd i ffordd o barhau i gynnig symiau atodol ar ôl y flwyddyn hon. Fodd bynnag, wedi ystyried yn hir, daeth yn amlwg na fyddai hynny yn bosibl.  

“Mae hyn yn achos cryn siom, ond rydyn ni wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o fanteisio’n llawn ar y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Er mwyn gwneud hynny, byddwn ni’n buddsoddi bron i £3 miliwn i gefnogi plant anabl a phlant sy’n derbyn gofal.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Plant a phobl ifanc 10 Ionawr 2011 Tlodi plant Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i