Bydd cyfle i bobl ifanc yng Nghymru dderbyn gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth annibynnol trwy’r llinell gymorth, sy’n derbyn £750,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Ymunodd plant ysgol lleol â’r cyflwynydd Andrew Price a Huw Lewis yn Stadiwm y Mileniwm i gyhoeddi bod y llinell gymorth 24 awr y dydd ar agor, y llinell gymorth gyntaf o’i bath ym Mhrydain i’w chyflwyno’n genedlaethol.
Meddai Huw Lewis:
“Ers i Meic gael ei lansio ym mis Mai 2010, mae dros 4,000 o blant a phobl ifanc ledled Cymru wedi cysylltu â’r llinell gymorth i ofyn am help a chyngor ar amrywiol bynciau.
“Mae’r pynciau y cafodd y cynghorwyr alwadau yn eu cylch wedi cynnwys materion teuluol, ffrindiau, materion ariannol a phwysau arholiadau. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd gwasanaeth fel Meic yng Nghymru, gwasanaeth y mae plant a phobl ifanc yn gwybod y gallant gysylltu ag ef bryd bynnag y byddant ei angen.
“Trwy ymestyn yr oriau agor i 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, rydym yn gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn cael cymorth gydol y dydd â’r nos trwy’r ffôn, e-byst, negeseuon testun neu negeseua gwib.
“Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru yn defnyddio Meic bob dydd i fagu hyder a goresgyn y problemau y maen nhw’n eu hwynebu. Dwi’n annog pawb sy’n teimlo eu bod angen cefnogaeth, neu sydd â phroblemau, bach neu fawr, i ffonio Meic.”
Ychwanegodd Andrew Price, sy’n cyflwyno ‘A-Z of Bushcraft’:
“Dwi wedi gorfod delio â phob mathau o broblemau a sefyllfaoedd anodd yn ystod fy mywyd, ac wedi gorfod dibynnu ar wahanol bobl a gwasanaethau i’m helpu. Dwi’n gwybod bod pobl ifanc yn wynebu problemau anodd ym mhob rhan o’u bywydau, boed yn yr ysgol, gartref neu gyda’u ffrindiau.
“Mae’n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn gwybod bod rhywun ar gael iddyn nhw siarad am unrhyw broblem, bryd bynnag y byddant angen hynny. Diolch i Meic, mae gan blant a phobl ifanc yng Nghymru y cymorth a’r gefnogaeth iawn 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.”











