Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Prif Weinidog yn datgan bod rhaid i bawb roi blaenoriaeth i fynd i’r afael â thlodi plant

Cafodd strategaeth newydd i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru ei chyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Dydd Mercher 02 Chwefror 2011
Y Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog dros Blant yn lansio'r Strategaeth Tlodi Plant newydd

Wrth lansio’r Strategaeth Tlodi Plant newydd yng Nghanolfan Plant Llwynhendy yn Llanelli, galwodd y Prif Weinidog Carwyn Jones a Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant, ar bawb i chwarae eu rhan i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Y brif flaenoriaeth i ni yw sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi yn cael yr un cyfle mewn bywyd â’u cyfoedion mwy cefnog.  

“Mae’r strategaeth rydyn ni’n ei lansio heddiw yn dangos ein bod wedi ymrwymo’n llawn i wneud popeth yn ein gallu ac i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i ni i wireddu ein dyhead i ddileu tlodi plant erbyn 2020.

“Mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn ei gwneud hi’n bwysicach byth i ni gadw ein hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi plant, gan roi blaenoriaeth i anghenion y mwyaf tlawd ac amddiffyn y rhai sydd fwyaf hawdd eu niweidio.  

“Rhaid rhannu’r cyfrifoldeb o ddileu tlodi plant, a rhaid i bob un chwarae eu rhan. Heb os, ni all unrhyw un sefydliad ar ei ben ei hun ddelio â’r materion cymhleth, amlweddog, sy’n achosi tlodi plant, a’i effeithiau.

“Dw i’n sylweddoli bod tipyn o her o’n blaenau ni. Ond, yn awr yn fwy nag erioed, mae’n allweddol bwysig i ni ymdrechu’n galetach a gweithio gyda’n gilydd i ddileu tlodi plant.”

Ychwanegodd Huw Lewis:

“Mae’n allweddol i ni gynyddu ein ffocws i leihau nifer y plant sy’n byw mewn tlodi, a chynyddu ein hymdrechion i wella canlyniadau i deuluoedd sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel.  

“Rydyn ni wedi dangos maint ein hymrwymiad i fynd i’r afael a thlodi plant mewn amryw o ffyrdd sydd wedi bod yn unigryw i Gymru. Yn ganolog i hynny, roedd cyflwyno ein Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru).

“Mae cefnogaeth yn ystod y blynyddoedd cynnar yn gallu cael effaith fawr ar fywyd plentyn, a dyna pam rydyn ni wedi cyhoeddi y bydd y cyllid ar gyfer Dechrau’n Deg yn cynyddu o 2012-14. Bydd hyn yn ein helpu i dargedu cymorth fel gofal plant di-dâl o safon i blant rhwng 2 a 3 oed, gyda gwell gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd, a mynediad at sesiynau Iaith a Chwarae, at y bobl hynny sydd ei angen fwyaf.  

“Nid yw teuluoedd yn dilyn yr un patrwm, ac nid oes ganddynt yr un anghenion. Drwy gyfrwng ein rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, rydyn ni’n darparu cyd-wasanaethau gwell i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi, sy’n diwallu eu hanghenion unigol. Rwyf am weld Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei chyflwyno ledled Cymru gyfan o fis Ebrill 2012 ymlaen.

“Rydyn ni’n cydnabod bod plant anabl yn fwy tebygol o gael eu bwlio, ac o ddioddef anhwylderau iechyd meddwl, ac mae eu teuluoedd yn fwy tebygol o ddioddef mwy o dlodi. Mae’n arbennig o bwysig, felly, bod ystod eang o wasanaethau ar gael i blant anabl a’u teuluoedd, a bod y gwasanaethau hynny yn gynhwysol.

“Y llynedd, cyhoeddais i y byddai £3 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn grant pontio newydd i fyd oedolion i blant sy’n derbyn gofal, a chymorth i blant anabl i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn adlewyrchu eu hanghenion hwy a’u teuluoedd yn well.  

“Newydd ddechrau mae’r gwaith o lansio’r Strategaeth hon. Rydyn ni’n sylweddoli bod nod y strategaeth yn uchelgeisiol. Ond, mae uchelgais yn allweddol, os ydyn ni am ddileu tlodi plant erbyn 2020. Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd ar ein cynllun manwl i roi ein gweledigaeth ar waith.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Strategaeth Tlodi Plant Tlodi plant

Tagiau

Plant a phobl ifanc 02 Chwefror 2011 Tlodi plant Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i