Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Galw am enwebu gweithwyr ieuenctid ysbrydoledig ar gyfer gwobr rhagoriaeth

Mae pobl sydd wedi elwa ar waith ieuenctid yng Nghymru yn cael eu hannog i enwebu rhywun ar gyfer un o Wobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru.
Dydd Gwener 04 Chwefror 2011

Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno ar 17 Mawrth a byddan nhw’n cydnabod gwaith prosiectau unigol, pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid.
Trwy’r gwaith hwn, mae pobl ifanc yn gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn i’n cymunedau, ac mae’r Gwobrau Rhagoriaeth hyn yn cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad ein gweithwyr ieuenctid.

Mae’r gwobrau’n gyfle i gydweithwyr, gweithwyr proffesiynol eraill yn y maes a phobl ifanc enwebu a chydnabod y bobl hynny sy’n gosod esiampl o ragoriaeth ac sy’n ysbrydoli eraill. Mae hefyd yn gyfle i ddweud diolch yn fawr ar ran yr holl bobl ifanc sydd wedi elwa ar eu cyfraniad.

Roedd noson wobrwyo y llynedd yn noson o ddathlu, pan gafodd gweithwyr ieuenctid unigol a phrosiectau ieuenctid eu cydnabod, gydag enwau’r naw enillydd yn cael eu cyhoeddi yn null cyhoeddi’r Oscars.

Eleni, bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno i brosiectau, gweithwyr ieuenctid unigol a phobl ifanc.

Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis:

“Dylai ein holl bobl ifanc gael y cyfle i wneud amrywiaeth o weithgareddau a chael gwahanol brofiadau er mwyn iddyn nhw allu gwneud dewisiadau da a buddiol, dysgu sgiliau, datblygu’n emosiynol, a dysgu o’u profiadau mewn amgylchedd cefnogol.

“Mae gweithwyr ieuenctid yn chwarae rhan bwysig yn y broses hon sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc wneud ffrindiau newydd, cael profiadau newydd a dysgu sgiliau.

“Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yn gyfle i ddiolch i'r bobl sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl ifanc.

“Hoffwn annog pawb sy’n adnabod rhywun sy’n haeddu cael ei gydnabod am ei waith caled yn y maes hwn i enwebu’r person hwnnw ar gyfer gwobr yn 2011, er mwyn i ni allu cydnabod ei gyfraniad mewn modd teilwng.”

I gael copi o’r ffurflen enwebu, ewch i wefan Diolch Sam neu ffoniwch 01443 663785.

Rhaid anfon enwebiadau erbyn 25 Chwefror 2011.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gwaith ieuenctid

Gwefannau

Diolch Sam

Tagiau

Plant a phobl ifanc 04 Chwefror 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i